Manylion am yr Ymchwil

Maes Pwnc: Iaith a Llenyddiaeth Saesneg; Rhywedd, rhywioldeb, hunaniaeth a seicdreiddiad

Goruchwylwyr: Dr Steve Vine a Dr Brigid Haines 

Gradd Ymchwil: PhD

Teitl y traethawd: Fetishism and Fluidity: Jeanette Winterson's Narratives of Diverse Pleasure and Desire, 1985-2015

Crynodeb o'r Ymchwil

Mae Jeanette Winterson yn ysgrifennwr Prydeinig cyfoes arobryn ac yn ffigwr dylanwadol mewn llenyddiaeth Saesneg sydd wedi cael ei disgrifio fel 'un o'r ysgrifenwyr mwyaf talentog sy'n gweithio heddiw'. Mae'r astudiaeth hon yn archwilio’r dehongliad cwiar o ffetisiaeth yng ngwaith Winterson, , sef safbwynt newydd a phwysig yn nehongliad seicdreiddiol o destunau o'r fath. Mae dehongliad cwiar o ffetisiaeth yn offeryn defnyddiol iawn wrth ddadansoddi ysgrifennu fel gwaith Winterson, yn enwedig wrth drafod y corff a ffetisiaeth, ac nid oes digon o sylw beirniadol wedi'i dalu i'r posibiliadau y mae'n eu cyflwyno.

Mae'r traethawd ymchwil hwn yn defnyddio cyfuniad o ymagweddau damcaniaethol sefydledig a chyfoes at y corff, rhywedd a rhywioldeb; mae hyn yn angenrheidiol i ddeall y trosgynnu ffiniau a geir yn nhriniaeth Winterson o rywedd, hunaniaeth a rhywioldeb. Caiff damcaniaethau seicdreiddiol gan Sigmund Freud, Jacque Lacan, Michel Foucault, a Judith Butler eu defnyddio, ynghyd â rhychwant rhyngddisgyblaethol o feirniadaeth lenyddol gyfoes o ysgrifennu ôl-strwythurol, ffeministaidd a materol ddiwylliannol. Mae'r traethawd ymchwil hwn yn dadlau bod Winterson yn fformatio, yn datgodio, yn ailwampio ac yn arloesi sgyrsiau am rywioldeb, hunaniaeth a rhywedd i ddangos presenoldeb chwant amrywiol a hylifol yn yr unigolyn ac mewn eraill.

Cyhoeddiadau

 

  1. Cynhadledd Ôl-raddedig mis Ebrill 2014,  “Revisiting Sadeian Woman” , Prifysgol Abertawe
  2. Cynhadledd Ôl-raddedig COAH 10 Hydref 2014, Prifysgol Abertawe

 

Blank paper and a pencil

Gwybodaeth Bellach

Ail enillydd y gystadleuaeth boster yng Nghynhadledd Ôl-raddedig Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau 10 Hydref 2014

Dilynwch fi yn: @ShareenaHanthom -https://twitter.com/ShareenaHanthom