Manylion am yr Ymchwil

ADRAN/MAES PWNC - Y Cyfryngau a Chyfathrebu

GORUCHWYLIWR/WYR) - Dr Yan WU a Dr DR Krijn

GRADD YMCHWIL (PhD/M.Phil/MA drwy Ymchwil) - PhD

TEITL Y TRAETHAWD YMCHWIL - Media Representation of Conflict: Sudan national Media Representation of the Darfur Conflict

Crynodeb o'r Ymchwil

Mae'r astudiaeth yn trafod sut mae'r cyfryngau cenedlaethol yn Sudan wedi portreadu a chynrychioli'r gwrthdaro yn Darfur yn ystod y cyfnod ar ôl y Rhyfel Oer. Mae'r gwrthdaro yn Darfur yn un o'r achosion o wrthdaro a waethygodd yn ystod y cyfnod ar ôl y Rhyfel Oer ac yn ystod y Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth ar ôl 2003. Mae'r cyfryngau rhyngwladol wedi galw'r rhyfel yn hil-laddiad, ac achosodd y rhyfel sawl ymateb rhyngwladol.

Mae llawer o ysgolheigion wedi archwilio sut cafodd y gwrthdaro ei bortreadu yn y cyfryngau rhyngwladol. Fodd bynnag, nid yw'r portreadu o'r gwrthdaro gan y cyfryngau cenedlaethol yn Sudan wedi derbyn llawer o sylw, yn enwedig o safbwynt brodorion sydd â'r profiad a'r wybodaeth o ran y system wleidyddol, newyddiaduriaeth, system y cyfryngau, diwylliant y cyhoedd, cefndir y gwrthdaro, a hanes a daearyddiaeth y rhanbarth. Mae'r astudiaeth hon yn cynrychioli cyfraniad newydd at astudio'r cyfryngau a'r gwrthdaro yn Darfur o safbwynt brodorion.

Yn bennaf, mae'r astudiaeth yn trafod y cyfryngau cenedlaethol, ond hefyd rôl systemau gwleidyddol cenedlaethol a rhyngwladol yng ngwrthdaro mewnol y cyfnod newydd, lle mae rhyfeloedd mewnol yn troi'n destun pryder i bwerau allanol ac yn effeithio ar systemau'r cyfryngau yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Er mwyn archwilio sut cafodd y gwrthdaro ei bortreadu'n genedlaethol, defnyddiodd yr astudiaeth ddulliau dadansoddi cynnwys ansoddol a meintiol, ochr yn ochr â chyfweliadau lled-strwythuredig ag unigolion pwysig ac uwch-newyddiadurwyr. Mae'r ymchwil hon yn archwilio effeithiau globaleiddio a gwerthoedd a chysyniadau'r cyfnod newydd ar waith adrodd am ryfel, yn ogystal â rôl systemau gwleidyddol rhyngwladol.

An image of a stack of newspapers