Manylion am yr Ymchwil

ADRAN/MAES PWNC - Saesneg

GORUCHWYLIWR(WYR) - Yr Athro Daniel Williams a Dr Steve Vine

GRADD YMCHWIL - (PhD)

TEITL Y TRAETHAWD - The philosophy of totalitarianism in twentieth-century dystopian fiction.

Crynodeb o'r Ymchwil

Mae fy mhrosiect presennol yn archwilio syniad totalitariaeth fel y mae hi wedi cael ei chysyniadu a'i beirniadu gan athronwyr allweddol drwy gydol hanes. Mae'r prosiect hefyd yn dadansoddi'r ffyrdd y mae totalitariaeth yn cael ei herio, ei hymgorffori a'i chyflwyno yn llenyddiaeth yr ugeinfed ganrif.

Drwy ystyried gwaith meddylwyr ac awduron amlwg sy'n ymwneud â'r ffenomen dotalitaraidd — megis Plato, Thomas Hobbes, George Orwell, Aldous Huxley, Hannah Arendt ac Ayn Rand — mae fy nhraethawd ymchwil yn ystyried cynrychiolaeth cymdeithasau totalitaraidd mewn llenyddiaeth, gan ddadansoddi sail athronyddol gweledigaethau'r awduron a nodi tebygrwydd a gwahaniaethau thematig a ffurfiol rhyngddynt.

Mae 'totalitariaeth' yn bwnc perthnasol mewn disgwrs wleidyddol a diwylliannol gyfoes. Rwy'n gobeithio y bydd fy nhraethawd ymchwil yn cynorthwyo wrth arddangos defnyddioldeb ysgolheictod dyneiddiol (yn benodol ysgolheictod llenyddol ac athronyddol) i ddadansoddiadau digwyddiadau gwleidyddol a diwylliannol presennol.

An image of books on a shelf