Sgip i brif cynnwys Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
Menu Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
  1. Hafan
  2. Israddedig
  3. Cyrsiau Israddedig
  4. Cyrsiau Israddedig Coleg Y Celfyddydau a'r Dyniaethau
  5. Ieithoedd, Cyfieithu a Chyfathrebu
  6. BA Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd
  • Astudio
    • Mynediad mis Ionawr 2021
      Student Life

      100 o gyrsiau israddedig ar gael.

      Dysgwch mwy
    • Israddedig
      • Cyrsiau
      • Llety
      • Diwrnodau Agored
      • Sut i wneud cais
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Rhieni a Gwarcheidwaid
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Clirio ym Abertawe
    • Ôl-raddedig
      • Cyrsiau
      • Rhaglenni Ymchwil
      • Diwrnod Agored
      • Sut i Wneud Cais
      • Ysgoloriaethau a bwrsariaethau
      • Y Brifysgol
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
    • Bywyd Myfyriwr
      • Astudio
      • Pam Abertawe
      • Bywyd y campws
      • Chwaraeon
      • Cynaliadwyedd - Cymrwch Ran
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe
      • Taith Rhithwir
      • Beth yw Pythefnos y Glas?
    • Gwasanaethau i Fyfyrwyr
      • Llyfrgelloedd ac Archifau
      • BywydCampws
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe
      • Menter Myfyrwyr
      • Canolfan Llwyddiant Academaidd
      • Academi Hywel Teifi
      • Llesiant myfyrwyr
  • Rhyngwladol
  • Ymchwil
  • Busnes
  • Cyn-fyfyrwyr
  • Y Brifysgol
    • Swyddfa'r Wasg
      Female student working with steel

      Newyddion a Ymchwil Diweddaraf straeon

      Darllenwch y newyddion diweddaraf yma
    • Y Brifysgol
      • Amdanom ni
      • Sut i ddod o hyd i ni
      • Gwobrau ac Anrhydeddau
      • Canmlwyddiant 2020
      • Swyddfa'r Wasg
      • Swyddi a Gweithio yn Abertawe
      • Cynaliadwyedd
      • Teithio i’r campws ac oddi yno
      • Cysylltu â ni
    • Chwaraeon
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Iechyd a Ffitrwydd
      • Perfformiad ac Ysgoloriaethau
      • Chwaraeon i fyfyrwyr - Chwaraeon Myfyriwr
      • Rhaglenni a Digwyddiadau
    • Bywyd y campws
      • Llefydd i Fwyta ar Gampws
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Y Neuadd Fawr
      • Taliesin
      • Creu Taliesin
      • Ein Tiroedd
      • Cerddoriaeth
      • Rhithdaith
    • Colegau Academaidd
      • Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau
      • Coleg Peirianneg
      • Gwyddorau Dynol ac Iechyd
      • Ysgol y Gyfraith
      • Yr Ysgol Reolaeth
      • Ysgol Feddygaeth
      • Y Coleg Gwyddoniaeth
      • Y Coleg
    • Academïau
      • Academi Iechyd a Llesiant
      • Academi Morgan
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA)
      • Academi Hywel Teifi
      • Academi Cynwysoldeb a Llwyddiant Dysgwyr Abertawe (SAILS)
  • Newyddion a Digwyddiadau
  • Cefnogaeth a Lles
  1. Hafan
  2. Israddedig
  3. Cyrsiau Israddedig
  4. Cyrsiau Israddedig Coleg Y Celfyddydau a'r Dyniaethau
  5. Ieithoedd, Cyfieithu a Chyfathrebu
  6. BA Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd

Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd gyda Blwyddyn Dramor, BA (Hons)

Tudalennau cysylltiedig
  • Colegau Academaidd
  • Cyrsiau Israddedig
    • Cyrsiau Israddedig Coleg Y Celfyddydau a'r Dyniaethau
      • Astudiaethau Americanaidd
      • Clasuron, Hanes Hynafol ac Aifft
      • Adran y Gymraeg
      • Ysgol Addysg
      • Iaith Saesneg
      • Llenyddiaeth Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol
      • Hanes
      • Astudiaethau’r Cyfryngau a Chyfathrebu
      • Astudiaethau Canoloesol
      • Ieithoedd, Cyfieithu a Chyfathrebu
        • BA Ieithoedd Modern gyda blwyddyn dramor
        • BA Ieithoedd Modern gydag Addysg
        • BA Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd
        • BA Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd rhwng Saesneg a Tsieinëeg
      • Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol
      • TESOL
      • Rhyfel a Chymdeithas
    • Cyrsiau Israddedig Peirianneg
    • Cyrsiau Israddedig Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd
    • Cyrsiau Israddedig y Gyfraith
    • Cyrsiau Israddedig yr Ysgol Reolaeth
    • Cyrsiau Meddygaeth Israddedig
    • Cyrsiau Israddedig Y Coleg Gwyddoniaeth
    • Cyrsiau Is-raddedig yn dod yn fuan!
    • Gofynion mynediad
  • Cysylltu â'r tîm derbyn israddedig
  • Diwrnodau Agored Israddedig
  • Llety
  • Sut i wneud cais am gwrs israddedig
  • Chwaraeon
  • Bywyd Myfyriwr
  • Ffioedd a Chyllid
  • Gwnewch Gais am 2021
  • Mynediad ym mis Ionawr ar gyfer Israddedigion
  • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
  • Rhithdaith
  • Gwybodaeth i Rieni a Gwarcheidwaid
  • Prosbectws Israddedig
  • Pam Astudio yn Abertawe?
  • Beth yw UCAS Extra? Eich canllaw cynhwysfawr
  • Clirio
  • Newidiadau rhaglen israddedig
  • Athrawon ac Ymgynghorwyr
  • Graddau Asesiad Canol
tef gold logo
Ymgeisio

O ble ydych chi'n gwneud cais?

Gwneud cais fel myfyriwr o'r DU neu'r UE?

Dylai pob myfyriwr y DU neu'r UE wneud cais drwy UCAS

Ewch i UCAS

Gwneud cais fel myfyriwr rhyngwladol?

Mae gennym System Gwneud Cais uniongyrchol rhwydd a chyflym i fyfyrwyr rhyngwladol.

Ewch i'r System Gwneud Cais

Gall myfyrwyr rhyngwladol hefyd wneud cais drwy UCAS

Diwrnod Agored
Cadwch Mewn Cysylltiad
Myfyriwr yn astudio mewn labordy iaith

Yn yr 11eg safle yn ôl adborth Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr The Guardian

Guardian University Guide 2020

Manylion Allweddol y Cwrs

  • D.U.
  • U.E.
  • Rhyngwladol
4 Blynedd Llawn Amser Gyda Blwyddyn Dramor
Côd UCAS
Q910
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol (gweler dewisiadau arall)
BBB
Lleoliad
Campws Parc Singleton
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2021 £ 9,000
4 Blynedd Llawn Amser Gyda Blwyddyn Dramor
Côd UCAS
Q910
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol (gweler dewisiadau arall)
BBB
Lleoliad
Campws Parc Singleton
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2021 £ 16,950
4 Blynedd Llawn Amser Gyda Blwyddyn Dramor
Côd UCAS
Q910
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol
BBB - Gwybodaeth Rhagor
Lleoliad
Campws Parc Singleton
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2021 £ 16,950
tef gold logo

Trosolwg o'r Cwrs

Gyda'n gradd Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd newydd gyda blwyddyn dramor, gallwch ddysgu dwy iaith, ynghyd â chyfieithu a chyfieithu ar y pryd, sy'n agor drysau i yrfaoedd posib cyffrous ym mhedwar ban byd.

Yn ogystal â datblygu eich sgiliau iaith mewn Ffrangeg, Almaeneg neu Sbaeneg, byddwch yn datblygu gwybodaeth a sgiliau ymarferol i'ch paratoi at ddyfodol ym maes cyfieithu neu gyfieithu ar y pryd.

Byddwch hefyd yn treulio blwyddyn dramor, yn astudio mewn un o'n sefydliadau partner â rhaglenni cyfieithu a chyfieithu ar y pryd rhagorol. Dyma gyfle cyffrous a gwerthfawr a fydd yn cryfhau eich profiad fel myfyriwr a'ch rhagolygon gyrfa.

PAM IEITHOEDD MODERN, CYFIEITHU A CHYFIEITHU AR Y PRYD YN ABERTAWE?

Wedi'ch lleoli ar Gampws Parc Singleton, mewn parcdir yn edrych dros Fae Abertawe ac ymyl Penrhyn Gŵyr:

  • Byddwch yn derbyn addysg gan arbenigwyr ymchwil sy'n arbenigo mewn cyfieithu a chyfieithu ar y pryd a chyfieithu â chymorth cyfrifiadur;
  • Byddwch yn cael profiad gwaith ym maes cyfieithu, gan gynnwys darlithoedd gan gyfieithwyr proffesiynol yn y diwydiant a fydd yn cyflwyno llif gwaith prosiectau cyfieithu a sut mae'r busnes cyfieithu wedi'i drefnu, meddalwedd rheoli prosiectau a gweithdrefnau ymgeisio am swyddi;
  • Bydd gennych fentor academaidd a fydd yn cynnig y gefnogaeth a allai fod ei hangen arnoch.
  • Roedd Sbaeneg ymysg y 15 uchaf am fodlonrwydd myfyrwyr – Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr 2019
  • Roedd Almaeneg yn y 4ydd safle am ragolygon graddedigion - The Times Good University Guide 2020 a Complete University Guide 2020
  • Roedd Almaeneg yn y 15fed safle yn y DU yn gyffredinol - Complete University Guide 2020
  • Roedd Ffrangeg yn yr 8fed safle am ragolygon graddedigion - The Times Good University Guide 2020

ICH PROFIAD IEITHOEDD MODERN, CYFIEITHU A CHYFIEITHU AR Y PRYD

Os ydych chi'n ystyried gyrfa ym maes cyfieithu neu gyfieithu ar y pryd, bydd y radd hon yn cynnig sylfeini'r wybodaeth, y sgiliau a'r ymarfer proffesiynol y bydd eu hangen arnoch.

Bydd gennych ddwy iaith weithredol, a bydd un ohonynt fel arfer yn cael ei hastudio o lefel dechreuwr. Wrth i'ch sgiliau iaith wella, byddwch yn datblygu dealltwriaeth well o'r diwylliannau a'r cymdeithasau sy'n defnyddio'r ieithoedd hyn.

Byddwch yn archwilio cysyniadau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd, damcaniaeth cyfieithu, cyfieithu â chymorth cyfrifiadur, prosiectau cyfieithu, rheoli terminoleg a chyfieithu ar y pryd ym meysydd busnes, iechyd a'r gyfraith.

Byddwch hefyd yn astudio dramor am flwyddyn mewn prifysgol sy'n cynnig rhaglenni cyfieithu a chyfieithu ar y pryd rhagorol i ddatblygu eich sgiliau iaith a'ch technegau cyfieithu ymhellach a gwella eich rhagolygon gyrfa.

Cyfleoedd Cyflogaeth Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd gyda Blwyddyn Dramor

Mae 91% o'n graddedigion mewn cyflogaeth neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio (DLHE 2015).

Gall y radd hon agor drysau i gyfleoedd cyffrous o ran gyrfa yn y DU ac yn rhyngwladol.

Dyma rai o yrfaoedd ein graddedigion:

  • Addysg
  • Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd
  • Newyddiaduriaeth, y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus
  • Llywodraeth, Gwleidyddiaeth a Sefydliadau Dyngarol
  • Busnes a Masnach
  • Gwasanaethau Cyhoeddus

Ymwadiad Rhaglen

Prosbectws Israddedig

Darganfyddwch eich prifysgol

Ewch ar rithdaith

virtual tour

Cynnig wedi'i warantu ar gyfer 2020*

Astudio trwy’r Gymraeg

welsh medium

Manyleb Rhaglen

Gofynion Mynediad

Ein gofyniad mynediad safonol yw BBB (120 o bwyntiau tariff UCAS) neu gyfwerth. Caiff ein holl gynigion eu gwneud yn dilyn adolygiad o'r ffurflen gais, y graddau a ragwelir/enillwyd a'r pynciau, y geirda a'r datganiad personol. Rydym hefyd yn derbyn amrywiaeth o gymwysterau lefel uwch, gan gynnwys: 32 yn y Fagloriaeth Ryngwladol; Bagloriaeth Cymru – gradd sy'n gyfwerth â Safon Uwch; Cymwysterau Mynediad i Addysg Uwch a'r Brifysgol Agored, a Phrosiect Estynedig.

Mae angen o leiaf un cymhwyster Safon Uwch iaith dramor fodern (lefel B1 ar y CEFR) ar ymgeiswyr.

Dyma'r gofynion ar gyfer Myfyrwyr Rhyngwladol  Rydym yn gofyn am sgôr IELTS o 6.0 fan leiaf ar gyfer ymgeiswyr nad ydynt yn siarad Saesneg fel eu hiaith gyntaf.

Sut byddwch chi'n cael eich dysgu

Yn ystod blwyddyn gyntaf eich astudiaethau, cewch eich addysgu drwy ddarlithoedd a thiwtorialau. Bydd y broses asesu yn cynnwys gwaith cwrs, traethawd ac arholiad.

Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn dysgu drwy seminarau a gwaith grŵp. Bydd y broses asesu yn amrywiol ac yn cynnwys gwaith cwrs, traethodau, cyflwyniadau grŵp ac arholiad.

Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn cwblhau astudiaethau annibynnol drwy ddulliau ymchwilio, traethawd hir neu bortffolio ymarfer a chewch hefyd eich addysgu drwy seminarau a gwaith grŵp. Bydd y broses asesu yn cynnwys traethawd ymchwil hir annibynnol, cyflwyniad annibynnol, gwaith cwrs ac arholiad.

Mae ein dysgu ac addysgu yn gwella eich sgiliau allweddol, y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt mewn graddedigion, fel a ganlyn:

  • Hunanreoli (mynychu dosbarthiadau, cadw at derfynau amser, paratoi ar gyfer seminarau, traethawd hir)
  • Gweithio mewn tîm (cyflwyniadau grŵp, seminarau grŵp, teithiau astudio a phrosiectau)
  • Ymwybyddiaeth o gwsmeriaid (astudio dramor, interniaethau, lleoliadau gwaith, profiad myfyrwyr)
  • Datrys problemau (ysgrifennu traethodau, ymchwil, arholiadau)
  • Cyfathrebu a llythrennedd (traethodau, arholiadau, cyflwyniadau, gwaith prosiect, traethawd hir)
  • Sgiliau rhifedd (dadansoddi data, ystadegau, graffiau, setiau data)
  • Technoleg gwybodaeth (Blackboard, traethodau, arholiadau, cyflwyniadau, cyfryngau cymdeithasol)

Mae'r cwrs hwn yn cynnig rhai modiwlau a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog i fyfyrwyr sy'n ystyried eu bod yn siarad Cymraeg yn rhugl. Am ragor o fanylion am y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg sydd ar gael, gweler yr ehangydd Darpariaeth Gymraeg isod.

Darpariaeth Gymraeg

Mae hawl gennych i ysgrifennu a chyflwyno eich gwaith cwrs ac i sefyll eich arholiadau yn y Gymraeg, hyd yn oed os ydych wedi dewis dilyn modiwlau cyfrwng Saesneg. Hefyd mae’n bosib i chi ddewis cael cyfweliad trwy gyfrwng y Gymraeg wrth ymgeisio am le.

Darperir rhai elfennau o’r cwrs hwn trwy gyfrwng y Gymraeg ond nid oes digon o ddarpariaeth eto i gyrraedd 40 credyd ym mhob blwyddyn. Bydd parhau i astudio trwy’r Gymraeg wedi i chi adael yr ysgol neu’r coleg yn ddatblygiad naturiol i chi ac yn fodd o sicrhau eich cyfle i gael yr addysg orau. Bydd hefyd yn ychwanegiad gwerthfawr i’ch CV a’ch datblygiad gyrfaol. Mae cyfleoedd ar gael i fyfyrwyr sy’n rhugl ac yn hyderus yn yr iaith yn ogystal ag i’r rhai sy’n llai hyderus neu sy’n ddysgwyr. Mae’n bosibl hefyd ddewis dosbarthiadau seminar a thiwtorial cyfrwng Cymraeg ar gyfer modiwlau sy’n cael eu dysgu yn bennaf drwy gyfrwng y Saesneg.

Cwrdd â'ch Darlithwyr

  • Susanne Arenhovel
  • Ariotti, Chiara (Ms)
  • Professor Tom Cheesman
  • Dr Lloyd Davies
  • Dr Giovanna Donzelli
  • Salwa El-Awa
  • Dr Maria Fernandez-Parra
  • Ms Christiane Güenther
  • Dr Brigid Haines
  • Mr Julien Hamilton-Hart
  • Dr Gregory Herman
  • Dr Kathryn Jones
  • Mrs Ute Keller-Jenkins
  • Dr Joanne Langley
  • Dr Federico Lopez-Terra
  • Dr Geraldine Lublin
  • Huicong Luo (Tanya)
  • Mrs Tanya May
  • Dr Rocio Perez Tattam
  • Professor Julian Preece
  • Dr Aled Rees
  • Mrs Adriana Rizzo-Dunnage
  • Dr Catherine Rodgers
  • Dr Patricia Rodriguez-Martinez
  • Professor Andy Rothwell
  • Sophie Rouys
  • Dr Joanna Rydzewska
  • Dr Sabrina Wang
  • Dr Alison Williams

Ffioedd Dysgu

Dyddiad Dechrau D.U. U.E. Rhyngwladol
Medi 2020 £ 9,000 £ 9,000 £ 16,450
Medi 2021 £ 9,000 £ 16,950 £ 16,950

Gellir codi ffioedd myfyrwyr Israddedig y DU llawn amser yn chwyddiannol mewn blynyddoedd astudio i ddod. Penderfynir ar y swm gan Lywodraeth Cymru.

Yn ystod blwyddyn ryngol (e.e. blwyddyn mewn diwydiant, blwyddyn dramor neu flwyddyn lleoliad), bydd ffi is yn gymwys. Am ragor o wybodaeth ewch i'n tudalen ffioedd dysgu.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd cyllido eraill sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Myfyrwyr cyfredol: Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Ariannu ac Ysgoloriaethau

Mae’n bosib eich bod yn gymwys i gael cymorth ariannol tuag at eich astudiaethau.

I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd eraill am gymorth ariannol sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Mae ysgoloriaethau a bwrsariaethau hael ar gael gan Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog. I ddysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael i chi, ewch i dudalen Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Academi Hywel Teifi

Costau Ychwanegol

Bydd mynediad i'ch dyfais ddigidol eich hun/y pecyn TG priodol yn hanfodol yn ystod eich amser yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd mynediad at wifi yn eich llety hefyd yn hanfodol i'ch galluogi i ymgysylltu'n llawn â'ch rhaglen. Gweler ein tudalennau gwe pwrpasol i gael arweiniad pellach ar ddyfeisiau addas i'w prynu, ac i gael canllaw llawn ar sefydlu'ch dyfais.

Efallai y byddwch chi'n wynebu costau ychwanegol tra byddwch chi yn y brifysgol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

  • Teithio i'r campws ac oddi yno
  • Costau argraffu, llungopïo, rhwymo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
  • Prynu llyfrau neu werslyfrau
  • Gwisgoedd ar gyfer seremonïau graddio

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe'n cefnogi myfyrwyr Prifysgol Abertawe ar bob cam yn eu taith yrfaol.

Mae ein gwasanaethau cymorth gyrfaoedd yn cynnwys:

  • Gweithdai cyflogadwyedd, sgyrsiau gan gyflogwyr, digwyddiadau pwrpasol a ffeiriau gyrfaoedd
  • Cyngor ac arweiniad unigol gan Ymgynghorwyr Gyrfaoedd proffesiynol
  • Cymorth i chwilio am swyddi, interniaethau, lleoliadau gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli
  • Mynediad i adnoddau gwybodaeth am amrywiaeth eang o bynciau rheoli gyrfa
  • Cyngor ac arweiniad ar astudio a chyllid i fyfyrwyr ôl-raddedig.
  • Ariannu i gefnogi cyfleoedd interniaethau myfyrwyr a digwyddiadau Cymdeithasau/Clybiau Myfyrwyr

Rydym hefyd yn darparu cymorth a chyngor i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe am hyd at bum mlynedd ar ôl iddynt raddio.

Cymorth Academaidd

Yn ogystal â chymorth pwnc penodol gan staff addysgu'r coleg a'ch mentor academaidd personol, mae'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn darparu cyrsiau, gweithdai a chymorth un-i-un mewn meysydd fel:

  • Ysgrifennu academaidd
  • Mathemateg ac ystadegau
  • Meddwl critigol
  • Rheoli amser
  • Sgiliau digidol
  • Sgiliau cyflwyno
  • Cymryd nodiadau
  • Technegau adolygu, dysgu ar gof ac arholiadau
  • Sgiliau Saesneg (os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf)

Yn ogystal, os oes gennych Anhawster Dysgu Penodol (ADP/SpLD), anabledd, cyflwr iechyd meddwl neu gyflwr meddygol, mae gan y Ganolfan Llwyddiant Academaidd Diwtoriaid Arbenigol i gefnogi'ch dysgu. Bydd y tiwtoriaid yn gweithio ochr yn ochr â'r Swyddfa Anabledd a'r Gwasanaeth Lles i gefnogi eich holl anghenion a gofynion tra byddwch yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe.

Cyfleoedd Astudio Tramor a Byd-eang

Nid yw cofrestru ar raglen sy'n cynnwys semester/blwyddyn dramor yn gwarantu lleoliad gwaith semester/blwyddyn dramor yn awtomatig. Mae nifer gyfyngedig o leoedd ar gael ac yn amodol ar broses ddethol gystadleuol. Os na fyddwch chi'n llwyddo i ennill lleoliad gwaith semester/blwyddyn dramor, cewch chi eich trosglwyddo i gwrs safonol eich cynllun gradd heb semester neu flwyddyn dramor. I ddysgu mwy am astudio dramor, ewch i'n tudalennau gwe Go Global.

Mae rhaglenni rhyngwladol yr haf ar agor i fyfyrwyr o bob coleg. Fel arfer, mae rhaglenni'n para o 2 i 6 wythnos, ar draws cyrchfannau megis Tsieina, Sambia, De Corea, Siapan, Canada a ledled Ewrop. Am ragor o wybodaeth ynghylch rhaglenni a chymhwysedd, ewch i'n tudalennau gwe Haf Dramor.

Sut i wneud cais

Gwnewch gais nawr - myfyrwyr y DU, UE a rhyngwladol.

Cewch wybod mwy drwy ymweld â'n tudalen ar sut i wneud cais

Diweddariad Covid ar gyfer Dysgu ac Addysgu

Rydym wedi newid rhai agweddau ar y ffordd rydym yn addysgu eleni, a bydd mwy o weithgareddau nag arfer yn cael eu cynnal ar-lein.

Mae calendr y Brifysgol wedi’i rannu’n flociau. Mae Bloc Addysgu Un yn para o fis Medi tan fis Ionawr ac yn ystod y bloc hwn eleni byddwch yn cael eich addysgu mewn ffordd ‘gyfunol’. Mae hyn yn golygu y bydd rhai o’ch gweithgareddau addysgu ar-lein a rhai ar y campws. Gyda’r addysgu ar-lein, er na fyddwch yn yr un ystafell â’r darlithydd, gall y gweithgarwch fod yn ‘fyw’ a bydd gennych gyfle i ryngweithio. Bydd rhai o’ch gweithgareddau’n hunan-gyfeiriedig sy’n golygu eich bod yn gallu cyrchu’r deunyddiau dysgu ar adeg sy’n gyfleus i chi.

 

Bydd eich sesiynau wyneb yn wyneb ar y campws yn gymysgedd o:

Grwpiau astudio a gweithdai rhaglenni

Seminarau pwnc

Gweithdai sgiliau astudio

Digwyddiadau sefydlu ac ymgynefino

Cyfarfodydd unigol gyda’ch Mentor Academaidd

Ymgynghori â staff ac oriau swyddfa

Goruchwyliaeth traethawd estynedig (myfyrwyr y flwyddyn olaf ac ôl-raddedig a addysgir)

 

Gall eich dysgu ac addysgu ar-lein gynnwys:

Darlithoedd byw wedi’u ffrydio

Seminarau, gweithdai a thiwtorialau modiwl

Cyfarfodydd unigol gyda’ch Mentor Academaidd

Ymgynghori â staff ac oriau swyddfa

Digwyddiadau cymunedol i staff a myfyrwyr

Goruchwylio traethawd estynedig (myfyrwyr y flwyddyn olaf ac ôl-raddedig a addysgir)

 

Bydd dysgu hunan-gyfeiriedig yn cynnwys:

Deunyddiau astudio wedi’u trefnu

Gweithgareddau astudio hunan-gyfeiriedig

Darllen paratoadol a phellach

Darlithoedd wedi’u recordio

Profion a chwisiau ffurfiannol

Astudio annibynnol yn y llyfrgell

Astudio annibynnol yn y labordai cyfrifiaduron

Cyfarfodydd Grŵp Dylunio

Cyrsiau paratoi cyn y tymor Gallwch ddatblygu eich sgiliau academaidd, eich dealltwriaeth o derminoleg sy’n benodol i’r pwnc a Saesneg academaidd

Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd gyda Blwyddyn Dramor

  • Colegau Academaidd
  • Cyrsiau Israddedig
    • Cyrsiau Israddedig Coleg Y Celfyddydau a'r Dyniaethau
      • Astudiaethau Americanaidd
      • Clasuron, Hanes Hynafol ac Aifft
      • Adran y Gymraeg
      • Ysgol Addysg
      • Iaith Saesneg
      • Llenyddiaeth Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol
      • Hanes
      • Astudiaethau’r Cyfryngau a Chyfathrebu
      • Astudiaethau Canoloesol
      • Ieithoedd, Cyfieithu a Chyfathrebu
        • BA Ieithoedd Modern gyda blwyddyn dramor
        • BA Ieithoedd Modern gydag Addysg
        • BA Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd
        • BA Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd rhwng Saesneg a Tsieinëeg
      • Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol
      • TESOL
      • Rhyfel a Chymdeithas
    • Cyrsiau Israddedig Peirianneg
    • Cyrsiau Israddedig Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd
    • Cyrsiau Israddedig y Gyfraith
    • Cyrsiau Israddedig yr Ysgol Reolaeth
    • Cyrsiau Meddygaeth Israddedig
    • Cyrsiau Israddedig Y Coleg Gwyddoniaeth
    • Cyrsiau Is-raddedig yn dod yn fuan!
    • Gofynion mynediad
  • Cysylltu â'r tîm derbyn israddedig
  • Diwrnodau Agored Israddedig
  • Llety
  • Sut i wneud cais am gwrs israddedig
  • Chwaraeon
  • Bywyd Myfyriwr
  • Ffioedd a Chyllid
  • Gwnewch Gais am 2021
  • Mynediad ym mis Ionawr ar gyfer Israddedigion
  • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
  • Rhithdaith
  • Gwybodaeth i Rieni a Gwarcheidwaid
  • Prosbectws Israddedig
  • Pam Astudio yn Abertawe?
  • Beth yw UCAS Extra? Eich canllaw cynhwysfawr
  • Clirio
  • Newidiadau rhaglen israddedig
  • Athrawon ac Ymgynghorwyr
  • Graddau Asesiad Canol
Ymgeisio

O ble ydych chi'n gwneud cais?

Gwneud cais fel myfyriwr o'r DU neu'r UE?

Dylai pob myfyriwr y DU neu'r UE wneud cais drwy UCAS

Ewch i UCAS

Gwneud cais fel myfyriwr rhyngwladol?

Mae gennym System Gwneud Cais uniongyrchol rhwydd a chyflym i fyfyrwyr rhyngwladol.

Ewch i'r System Gwneud Cais

Gall myfyrwyr rhyngwladol hefyd wneud cais drwy UCAS

Diwrnod Agored Gofynnwch gwestiwn i ni
  • Cysylltwch â ni
  • Swyddi
  • Colegau
  • Y Wasg
  • Iechyd a Diogelwch
  • Ymwadiad a Hawlfraint
  • Map o'r Safle
  • Datganiad Caethwasiaeth Fodern
  • Mae Prifysgol Abertawe yn elusen gofrestredig, Rhif 1138342