SID-Cymru

Rydym yn Trawsnewid Atal Hunan-niweidio a Hunanladdiad

Llun o'r tu ôl o fenyw yn gorffwys ei phen ar ysgwydd dyn

Rhybudd: Mae'r erthygl hon yn trafod hunan-niweidio a hunanladdiad.

Ar ddechrau'r 2010au, cyrhaeddodd marwolaethau oherwydd hunanladdiad yng Nghymru uchafbwynt na welwyd mo'i debyg mewn dros degawd, cafwyd gostyngiad y flwyddyn ganlynol, gan gynyddu eto'n fuan wedi hynny.

Bron ddeng mlynedd yn ddiweddarach, mae'r gyfradd bron heb newid, ac nid yw'n dangos unrhyw arwydd o leihau, gydag oddeutu 350 o farwolaethau y flwyddyn.

Ac nid yw Cymru ar ei phen ei hun. Ar draws y DU, mae dros gant o bobl yn marw drwy hunanladdiad bob wythnos yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Yn fyd-eang, mae dros 700,000 o bobl yn lladd eu hunain bob blwyddyn. Yn syfrdanol, mae hynny'n un person bob 40 eiliad (Sefydliad Iechyd y Byd).

Er ein bod yn gallu cyflwyno ystadegau ar hunanladdiad, mae bron yn amhosib cyfleu'r dinistr y mae pob digwyddiad yn ei achosi gyda niferoedd a ffigurau'n unig, pan fyddwn yn cofio bod pob rhif yn cynrychioli person go iawn yn byw bywyd go iawn.

Dyma pam y mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi datblygu'r gronfa ddata gwybodaeth am hunanladdiad poblogaeth gyntaf yng Nghymru, SID-Cymru; ymagwedd newydd, drawsnewidiol at atal hunanladdiad a hunan-niweidio.

Datblygwyd y prosiect gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil i Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio; y ganolfan annibynnol swyddogol sy'n cynnig cyngor gwyddonol i Lywodraeth Cymru. Mae'r tîm, dan arweiniad Cyfarwyddwr y Ganolfan, yr Athro Ann John, yn cynnwys Dr Marcus Del Pozo Banos, Dr Jess Williams a Dr Amanda Marchant.

Cynnig Dealltwriaeth Ddigynsail

Ni cheir un rheswm sengl yn aml am pam mae rhywun yn cymryd ei fywyd. Mae'n gymysgedd o ffactorau cymdeithasol, seicolegol a biolegol ar draws bywyd rhywun. Serch hynny, gellir atal hunanladdiad 

Mae'r platfform newydd hwn yn ceisio atal marwolaethau yn y dyfodol drwy gipio data iechyd, gofal cymdeithasol ac addysgol anhysbys, gan gynnig dealltwriaeth ddigynsail i ffactorau risg hunanladdiad a phryd i ymyrryd er mwyn mynd i'r afael â'r rhain. Mae'r ffactorau hyn yn cynnwys patrymau o ddefnyddio gwasanaethau mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol yn ogystal ag achosion cymdeithasol.

Cynhaliwyd yr ymchwil yn dilyn clwstwr o hunanladdiadau yn ne Cymru lle bu'r tîm yn gweithio i ddeall y ffactorau a arweiniodd at ddechrau a pharhad y clwstwr. Gan ddefnyddio dulliau arloesol, roedd y tîm yn gallu nodi graddfa ac amseru'r clwstwr ac ymchwilio i adroddiadau papur newydd.  

Mae gwybod pwy sy'n marw oherwydd hunanladdiad a phryd yn hanfodol i ddysgu beth yw'r ffordd orau o atal marwolaethau yn y dyfodol. Mae'n ein galluogi i nodi newidiadau dros amser, gwneud newidiadau ymatebol i bolisi ac ymarfer, a nodi effaith unrhyw ymyriadau a roddir ar waith, i sicrhau eu bod mor effeithiol â phosib. 

"Rhaid cynnal gweithgareddau sy'n atal hunanladdiad ym mhob lleoliad, nid dim ond yn y gwasanaethau iechyd neu iechyd meddwl."

Gwnaeth yr astudiaeth gysylltu ymweliadau â gofal sylfaenol, mynd i'r adran argyfwng a chael derbyn i'r ysbyty ar draws y boblogaeth gyfan, i nodi patrymau cyswllt â'r gwasanaeth cyn marwolaeth, i'r rhai hynny sy'n marw oherwydd hunanladdiad.   Dyma'r tro cyntaf y bu hyn yn bosib yn y DU.

Bu'r data'n allweddol ar gyfer diffinio marcwyr tebygol sy'n gallu arwain at hunan-niweidio a hunanladdiad, gyda ffocws penodol ar gyfleoedd i'w hatal.

Dangosodd yr ymchwil gysylltiad clir rhwng ffactorau economaidd-gymdeithasol a thebygolrwydd hunanladdiad, gyda chyfraddau'n uwch mewn ardaloedd o amddifadedd economaidd, gan amlygu bod angen i weithgarwch sy'n atal hunanladdiad fynd i'r afael ag anghydraddoldebau hefyd.

Nodwyd hefyd bod y rhai hynny a fu farw oherwydd hunanladdiad wedi cysylltu â'r gwasanaethau, yn enwedig eu meddygon teulu, yn fwy na'r rhai hynny na fu farw oherwydd hunanladdiad, yn y flwyddyn cyn eu marwolaethau.  Ond roedd yr apwyntiadau hyn â'r Meddyg Teulu'n fwy tebygol o fod ar gyfer iechyd meddwl, defnydd o alcohol neu gyffuriau neu achosion o hunan-niweidio, gan gyflwyno tystiolaeth bod angen cynnal gweithgareddau atal hunanladdiad ar draws yr holl leoliadau iechyd, megis gwasanaethau Meddyg Teulu, nid y rhai hynny sy'n canolbwyntio ar iechyd meddwl yn unig.

Sut Gall Data'r Byd Go Iawn Herio Naratifau

Gwnaeth prosiect SID-Cymru, gyda'i lefelau newydd a digynsail o ddealltwriaeth, hefyd ddatgelu rai patrymau annisgwyl.

Dangosodd y data, er gwaethaf y naratif cyffredin, fod dynion yn cysylltu mwy â'u darparwyr gofal iechyd yn yr wythnosau a'r misoedd cyn iddynt farw.  Mae'r un peth yn wir ar gyfer bechgyn ifanc dan 16 oed, sy'n llawer llai tebygol o gael eu derbyn i ysbyty am hunan-niweidio na merched ifanc o'r un oedran.

Ond gyda 3 o bob 4 marwolaeth drwy hunanladdiad yn ddynion (ONS), mae hyn yn taflu goleuni clir ar yr angen i fynd i'r afael â'r gofal a'r ymatebion y mae dynion mewn trallod yn eu cael, ac yn nodi'r angen am fwy o hyfforddiant proffesiynol ac ymyriadau arbenigol.

Glasbrint ar Gyfer Atal Byd-eang

Mae effaith y gwaith hwn wedi bod yn anhygoel. 

Ar lefel genedlaethol, mae'r ymchwil wedi llywio strategaeth atal hunanladdiad Cymru, ac wedi arwain at Lywodraeth Cymru'n clustnodi £500,000 ychwanegol y flwyddyn i'w wario ar fentrau atal hunanladdiad.

Mae wedi cyfeirio canllawiau newydd i ysgolion, gofal cymdeithasol a gwasanaethau iechyd, gan sicrhau cymorth ymarferol i bobl ifanc sy'n hunan-niweidio. Roedd yn allweddol yn y penderfyniad i newid y diffiniad o absenoldeb mynych i 10% yn hytrach nag 20% gan sicrhau ymyrraeth gynharach. Dros amser, mae hyn wedi ymestyn i feysydd eraill; lleihau mynediad at ddulliau hunanladdiad, gan ddylanwadu ar ganllawiau rhagnodi gwrthiselyddion, trwyddedu gynnau a hyd yn oed dyluniad pontydd. 

Mae'r Athro John wedi cadeirio pwyllgor sydd wedi creu Safon Atal Hunanladdiad yn y Gweithle'r Sefydliad Safonau Prydeinig, y gyntaf o'i bath yn y byd, sydd eisoes wedi'i lawrlwytho dros 7,000 o weithiau mewn dros 75 o wledydd. Mae safon debyg wedi bod yn chwyldroadol ar gyfer newid canfyddiadau ac ymatebion i unigolion sy'n wynebu symptomau'r menopos, gan obeithio y bydd y safon newydd hon yr un mor effeithiol.

Mae'r Athro John hefyd yn cadeirio Rhwydwaith Atal Hunanladdiad Cenedlaethol y Sefydliad Brenhinol ar ran Tywysog a Thywysoges Cymru.

Mae'r tîm wedi ymgysylltu'n uniongyrchol â sefydliadau'r cyfryngau a darlledwyr, gan gynnwys The Independent a The Guardian, yn ogystal â BBC, ITV, a Channel 4, i hyrwyddo darlledu cyfrifol am hunanladdiad. Gwnaeth y cydweithio hwn ddylanwadu ar straeon a dulliau adrodd, gan leihau'r risg o bortreadau niweidiol o hunanladdiad yn cyrraedd cynulleidfaoedd bregus.

Gwnaeth data o SID-Cymru hysbysu adolygiad thematig o farwolaethau plant a phobl ifanc drwy hunanladdiad tebygol, 2006-2012. Gwnaeth yr adolygiad hwn nifer o argymhellion i asiantaethau amrywiol, megis isafswm pris uned ar gyfer alcohol, a gwella gofal i bobl ifanc dan 18 oed sy'n mynd i'r adran frys gyda phroblemau o ran alcohol neu hunan-niweidio.

Yn rhyngwladol, mae SID-Cymru wedi ysbrydoli systemau tebyg yng Nghanada a thu hwnt, gan arddangos perthnasedd byd-eang y fethodoleg a ddatblygwyd yn Abertawe. 

Drwy ddadansoddi'r data a gasglwyd yn drylwyr, a gweithio i weithredu ymatebion go iawn, mae'r prosiect wedi gwella canlyniadau hunan-niweidio ac iechyd meddwl, ac wedi cynnig glasbrint ar gyfer strategaethau ataliol ledled y byd.

Dyfodol Atal Hunanladdiad

Mae sawl achos posib o hunanladdiad; problemau ariannol, digwyddiadau bywyd, cyflyrau iechyd meddwl, problemau gydag alcohol a chyffuriau i enwi ond rhai. Ac oherwydd cymhlethdod a dyfnder y materion hyn, nid oes un sefydliad na sector sy'n gallu atal hunanladdiad neu hunan-niweidio ar ei ben ei hun.

A dyma lle gall SID-Cymru fod yn chwyldroadol. Gall yr ymchwil gynnig canlyniadau a dulliau wedi’u llywio gan ddata i bob asiantaeth unigol sy'n rhan o'r sector iechyd a gofal cymdeithasol, gan rannu cyfrifoldeb am atal hunanladdiad a chydlynu ymarfer. 

Mae cynlluniau eisoes ar waith i gysylltu data iechyd a gesglir gan SID-Cymru â data iechyd a gofal cymdeithasol a darparwr gofal brys, gan greu adnodd enfawr.

Ac mae'r tîm eisoes yn gweithio ar gam ar gyfer y dyfodol, sy'n ceisio defnyddio Deallusrwydd Artiffisial i greu 'gefeilliaid digidol'; dyblygiadau rhithiol o boblogaethau cyfan. Gan ddefnyddio'r platfform hwn, gellir modelu ymyriadau ar raddfa fwy ac mewn amser go iawn, i brofi eu heffeithiolrwydd, gan arwain at wneud argymhellion cywir i lunwyr polisi ar yr ymyriadau mwyaf effeithiol, sydd eisoes wedi'u profi'n rhithwir a'u perffeithio.

Bydd yr adnoddau hyn yn cyfeirio ymdrechion atal ymhellach ac yn ysgogi sgyrsiau sy'n arwain at ymyriadau newydd ac felly yn y dyfodol yng Nghymru a ledled y byd, bydd llai o bobl yn marw o ganlyniad i hunanladdiad.