Rheoli Iechyd a Gofal Uwch (Seiliedig ar Werth), MSc / PGDip

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Woman speaking in board room

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein llwybr MSc Rheoli Uwch (Iechyd a Gofal sy'n seiliedig ar Werth) wedi'i greu ar gyfer arweinwyr, clinigwyr, llunwyr polisi a rheolwyr sydd am drawsnewid systemau gofal iechyd drwy gyflwyno gwerth cynaliadwy sy'n canolbwyntio ar gleifion. Mae'n cyfuno gwybodaeth reoli uwch â ffocws arbenigol ar ddylunio, gweithredu ac arwain iechyd a gofal sy'n seiliedig ar werth. Ochr yn ochr â'r llwybrau Diploma Ôl-raddedig a PGCert, mae'r llwybr hwn yn arfogi graddedigion i ymateb i'r angen brys am systemau gofal iechyd sy'n cyflawni canlyniadau gwell am bris rhatach, wrth gynnal uniondeb a thegwch

Mae'r rhaglen yn datblygu dealltwriaeth strategol ac ymarferol o sut gall modelau sy'n seiliedig ar werth gael eu creu a'u gweithredu ar draws systemau gofal iechyd cymhleth. Byddwch yn archwilio themâu megis arloesi mewn iechyd a gofal, mesur canlyniadau, dyrannu adnoddau, strategaeth ar gyfer darparu ar sail gwerth a gweithredu newid systemau ar raddfa fawr.   Mae dysgu cymhwysol yn sicrhau y gallwch drosglwyddo'r mewnwelediadau hyn yn atebion effeithiol mewn sefydliadau’r gwasanaeth iechyd, lleoliadau gofal cymdeithasol ac amgylcheddau polisi.

Mae ein rhaglen wedi'i rhannu'n dair rhan: Mae'r rhan gyntaf yn cyflwyno'r modiwlau MBA sylfaenol, gan feithrin sgiliau traws-ddisgyblaethol portffolio Rheoli Uwch yr MSc. Mae'r ail ran yn canolbwyntio ar fodiwlau iechyd a gofal sy'n seiliedig ar werth sy'n dyfnhau arbenigedd mewn strategaeth, arloesi a gweithredu. Mae'r rhan olaf yn canolbwyntio ar y prosiect Ymchwil mewn Ymarfer, sydd wedi'i wreiddio drwy gydol y cwrs ac yn cyd-fynd â heriau'r byd go iawn o systemau iechyd a gofal.

Mae'r radd MSc Rheoli Uwch (Iechyd a Gofal sy'n seiliedig ar Werth) ar gael yn rhan-amser yn unig, yn astudio dros ddwy flynedd. Mae ei dyluniad hyblyg yn cefnogi gweithwyr proffesiynol gofal iechyd wrth gydbwyso astudio â rolau clinigol neu reoli wrth ganolbwyntio ar gymhwyso gwybodaeth a sgiliau.

PAM Rheoli Uwch (Iechyd a Gofal sy'n seiliedig ar Werth) YN ABERTAWE?

  • Mae'r Ysgol Reolaeth wedi'i hachredu gan AACSB International, y sefydliad addysg fusnes mwyaf yn y byd, sy'n cysylltu ysgolion busnes, busnesau a dysgwyr i greu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwych. 
  • Mae'r radd MSc Rheoli Uwch (Iechyd a Gofal sy'n seiliedig ar Werth) ym Mhrifysgol Abertawe yn meddu ar dri achrediad unigryw: Cyfadran Arweinyddiaeth a Rheolaeth Feddygaeth (FMLM), Y Swyddfa Safonau Datblygiad Proffesiynol Parhaus a'r Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI)
  • Drwy ei Hacademi Iechyd a Gofal sy'Academi Iechyd a Gofal sy'n Seiliedig Ar Werthn Seiliedig ar Werth (VBHC), mae Prifysgol Abertawe'n unigryw wrth gynnig gradd Meistr gyda llwybr penodol yn egwyddorion a chymhwyso Gofal Iechyd sy'n seiliedig ar Werth yn y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a'r gwyddorau bywyd.
  • Mae ein cwrs wedi'i lunio i herio ac ysgogi, gan alluogi gwybodaeth i gael ei chymathu a'i chymhwyso mewn cyd-destun yn ogystal â dysgu gan gyfoedion, siaradwyr gwadd ac yn cynnal y blociau o fodiwlau.
  • Caiff modiwlau eu haddysgu gan academyddion o'r radd flaenaf sydd â phrofiad helaeth o weithio yn y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a'r gwyddorau bywyd yn ogystal â byd academaidd.
  • Caiff y canfyddiadau diweddaraf o waith ymchwil eu defnyddio i sicrhau dealltwriaeth drylwyr o fabwysiadu VBHC yn llwyddiannus.
  • Bydd ein rhaglen arloesol yn eich arfogi ag arweiniad ymarferol ar gyfer mabwysiadu strategaeth sefydliadol sy'n seiliedig ar werth.
  • Byddwch yn cael eich gwahodd i ddosbarthiadau meistr gydag arbenigwyr byd-eang ym maes VBHC.
  • Byddwch yn cael safbwynt byd-eang wrth ddatblygu a gweithredu iechyd a gofal cymdeithasol sy'n seiliedig ar werth.
  • Datblygwch yn arweinydd, yn ymarferydd, yn rheolwr neu'n ymchwilydd myfyriol beirniadol a all weithredu ar lefel uwch a darparu arweinyddiaeth wrth gynllunio, datblygu a gwerthuso gofal iechyd a chymdeithasol integredig yn feirniadol.
  •  

EICH PROFIAD Rheoli Uwch (Iechyd a Gofal sy'n seiliedig ar Werth)

Mae ein llwybr iechyd a gofal sy'n seiliedig ar werth wedi'i ddatblygu ar y cyd â darparwyr gofal iechyd, comisiynwyr a rhanddeiliaid polisi, gan sicrhau bod eich deilliannau dysgu'n trafod yr heriau byd-eang mwyaf dybryd mewn iechyd a gofal.  Mae'n adlewyrchu ymrwymiad yr Academi i ddatblygu addysg reoli gyfrifol a chymhwysol sy'n cael effaith uniongyrchol ar gymdeithas.

Mae ein llwybr yn cynnig ffordd hanfodol i arweinwyr sydd am ysgogi trawsnewidiad ar sail gwerth mewn gofal iechyd, gan eu harfogi nhw â sgiliau, dealltwriaeth a'r hyder i gyflwyno gofal cynaliadwy ac o safon sy'n canolbwyntio ar y claf.

Mae ein rhaglen arloesol yn ceisio mwyafu eich taith ddysgu gan ddefnyddio’r dulliau creadigol, dysgu cyfunol a’r fframweithiau asesu mwyaf addas a'u haddasu nhw i'ch anghenion unigol.

Caiff ei chyflwyno mewn amgylchedd dysgu a arweinir gan ymchwil; caiff yr wybodaeth ddiweddaraf ei defnyddio i ysgogi dysgwyr; mwyafu eich deilliannau dysgu. Byddwch hefyd yn cael eich annog i greu ymchwil ar y cyd yn ystod y modiwl Ymchwil yng Nghyd-destun Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r asesiadau ffurfiannol a chrynodol mewn modiwlau eraill.

Bydd eich dysgu'n datblygu drwy gymhwyso cysyniadau gwahanol a modelau i achosion o'ch gwaith eich hun a'ch profiadau bywyd.

Bydd y radd MSc Rheoli Uwch (Iechyd a Gofal sy'n seiliedig ar Werth) hefyd yn cysylltu â chymdeithasau a rhwydweithiau rhyngwladol, cenedlaethol, rhanbarthol a lleol.  Mae hyd a lled yr arbenigedd ymchwil, addysgu a phroffesiynol yn cyfoethogi eich datblygiad ym maes arloesedd a thrawsnewid iechyd a gofal.

MSc Rheoli Uwch (Iechyd a Gofal sy'n seiliedig ar Werth) CYFLEOEDD CYFLOGAETH

Bydd ein cwrs yn eich arfogi â'r sgiliau a'r profiad i arwain rhaglen trawsnewid Gofal Iechyd sy'n seiliedig ar Werth eich sefydliad.

Yn ogystal, bydd ein rhaglen yn gwella eich cyfleoedd cyflogaeth a'ch hyfedredd proffesiynol yn y dyfodol yn yr esiampl fyd-eang hon sy'n dod i'r amlwg wrth lywio polisi a darpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol a a modelau busnes gwyddor bywyd. 

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.