Trosolwg o'r Cwrs
Ydych chi wedi cymhwyso’n gyfrifydd gyda'r cyrff proffesiynol yn ystod y pum mlynedd diwethaf (neu oes gennych brofiad ychwanegol perthnasol) a hoffech ddatblygu eich gyrfa drwy astudio am gymhwyster Meistr?
Gan hyrwyddo integreiddio rhwng ymarfer proffesiynol a damcaniaeth, gall y credydau o'ch dysgu blaenorol fel cyfrifydd cymwysedig eich rhoi ar lwybr carlam i'n rhaglen MSc mewn Cyfrifeg Broffesiynol.
Wrth astudio ar y rhaglen, byddwch yn cwblhau modiwl mewn Dulliau Ymchwil Meintiol, a fydd yn eich paratoi ar gyfer prosiect annibynnol. Caiff hyn ei ddarparu i chi o bell, gan eich galluogi i'w gwblhau fel dysgwr o bell os nad ydych yn gallu dod i Brifysgol Abertawe.
Gan gynnig hyblygrwydd ychwanegol, mae ein MSc mewn Cyfrifeg Broffesiynol, sy'n para blwyddyn, yn cynnig dau ddyddiad dechrau ym mhob blwyddyn academaidd.
Wrth astudio am ein MSc mewn Cyfrifeg Broffesiynol, byddwch yn tynnu ar gymdeithasau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol a bydd ehangder ymchwil, addysgu ac arbenigedd ymarferol ein tîm addysgu yn cyfoethogi eich datblygiad proffesiynol.