Mae’r rhaglen hon yn cynnwys dau fodiwl blaenllaw a gorfodol o’r enw, 'Crisis and Global Change' a 'Society-Environment Relations' Dysgir y ddau yn y tymor cyntaf, gan osod seiliau mewn beirniadaeth gymdeithasol, ac mewn daearyddiaeth, gwleidyddiaeth a diwylliant. Fe’u dysgir gan staff Daearyddiaeth Dynol mewn seminarau bach, lle mae’r pwyslais ar drafodaeth, ac ar ddysgu drwy esiamplau o’n byd o’n cwmpas.
Yn yr ail dymor, mae’r modiwl 'Qualitative Research Methods' yn paratoi myfyrwyr at y traethawd hir. Bydd y traethawd hir yn ganlyniad gwaith ymchwil annibynnol ar bwnc cyfoes, sydd yn cysylltu’n fras gyda’r themau canolog - amgylchedd, cymdeithas, a newid byd-eang. Cefnogir ein myfyrwyr i wneud gwaith maes, ac i ddatblygu partnerieithau allanol, lle bo hynny’n addas. Mae’r traethawd hir yn cael ei gefnogi gan gyfarfodydd arolygu unigol, ynghyd â chyfarfodydd grwp.
Ynghyd â’r modiwlau gorfodol yma, caiff y myfyrwyr ddewis o fodiwlau eraill o’r Adran Wleidyddiaeth, Athroniaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol, a’r adran Hanes ym Mhrifysgol Abertawe. Mae modiwlau poblogaidd yn cynnwys: 'Violence, Conflict and Development', 'Critical Security Studies', 'Climate Science and Policy', 'Geographical Information Systems', a 'Heritage, Law and Conflict'.
Mae cyfle i fyfyrwyr ymgeisio am fwrsari o £1,000 o Lywodraeth Cymru os am ddilyn rhan o’r cwrs Meistr hwn yn Gymraeg. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag Academi Hywel Teifi neu Dr Angharad Closs Stephens, un o gydlynwyr y rhaglen.
Blwyddyn 1 (Lefel 7T)
FHEQ 7 Taught Masters / PGDip / PGCert
Mae myfyrwyr yn dewis 120 o gredydau o'r opsiynau canlynol:
Modiwlau Gorfodol
Modiwlau Opsiynol
Optional
Dewiswch Yn union 20 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:
AND
Optional
Dewiswch Yn union 20 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:
FHEQ 7 Taught Masters Dissertation
Modiwlau Gorfodol
Enw'r Modiwl | Hyd y Modiwl | Credydau | Cod y Modiwl |
---|
Dissertation | January-June | 60 | GEGM20 |