Ein Cyfleusterau
.jpg)
Defnyddir y Labordy Ymddygiad Arthropodau i fonitro ymddygiad pryfed gan ddefnyddio camerâu fideo confensiynol yn ogystal â synwyryddion a osodir ar anifeiliaid megis offer mesur cyflymder a ddatblygir yn y Labordy Adeiladu Tagiau ac a ddadansoddir yn y swît delweddu. Mae prosiectau'n cynnwys ymateb pryfed sy'n blâu i semiogemegion ac asesu ymddygiad sy'n ymwneud â 'chyflwr'.

Mae'r labordy arbenigol hwn yn dadansoddi hormonau mewn modd anfewnwthiol ac yn ystyried cwestiynau amserol ym maes endocrinoleg gyffredinol ac ymddygiadol. Mae'r ymchwil yn cynnwys meintioli hormonau amrywiol (e.e. hormonau atgenhedlu a straen) mewn samplau o ddŵr, gwallt, poer ac ysgarthion a gesglir o amrywiaeth eang o rywogaethau, o bysgod i bobl.
.jpg)
Mae ein labordy addysgu'r Biowyddorau ac ystafelloedd TG wedi cael eu hadnewyddu fel rhan o ymrwymiad parhaus y Brifysgol i wella'r amgylchedd dysgu ac addysgu. Mae'r labordai'n cynnwys ystod lawn o gyfleusterau clyweledol sy'n gallu trawsyrru allbwn o amrywiaeth o ffynonellau gan gynnwys microsgopau, cyfrifiaduron, peiriannau DVD ac unedau delweddu/camera i amryw sgriniau plasma.
.jpg)
Mae'r Ganolfan Ymchwil Ddyfrol Gynaliadwy sy'n cynnwys systemau dyframaethu modern sy'n ailgylchredeg ac y gellir eu rhaglennu'n llawn. Dyluniwyd y ganolfan ar gyfer ymchwil gymhwysol i amrywiaeth eang o organebau dyfrol, o amgylcheddau tymherus i rai trofannol a morol i ddŵr croyw.
.jpg)
Mae'r Labordy Adeiladu Tagiau wedi'i sefydlu ar gyfer ymchwil, datblygu a chyflwyno tagiau anifeiliaid sydd â gallu newydd i astudio achosion a chanlyniadau symudiadau anifeiliaid drwy ddefnyddio technoleg a osodir ar anifeiliaid. Mae'r gwaith yn ymwneud â synwyryddion, systemau casglu ynni, a lleihau maint dyfeisiau electronig yn ogystal â thechnoleg argraffu 3-D a phrofi gorchuddion fel y gellir adeiladu tagiau i fod yn gadarn heb gael llawer o effaith ar y rhai sy'n eu gwisgo.
.jpg)
Mae'r R.V. Mary Anning yn llong arolygu 18m a adeiladwyd at y diben fel platfform gweithio sefydlog a all weithio ar y tir ac ogystal ag ar y môr, gyda'r cyflymder i gyrraedd cyrchfannau'n gyflym yn ôl yr angen. 18kts yw ei chyflymder mwyaf economaidd, sy'n weddol gyflym am long o'r maint hwn.