Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r cwrs MSc mewn Peirianneg Bŵer ac Ynni Cynaliadwy yn sicrhau eich bod yn meddu ar wybodaeth gadarn am ddyfeisiau a thechnolegau lled-ddargludo, electroneg pŵer uwch a systemau pŵer uwch.
Cewch ddwy flynedd o brofiad yn y DU a’r cyfle i weithio ar y cyd â diwydiant ar her go-iawn.
Mae’r radd MSc newydd hon yn estyniad i’n MSc mewn Peirianneg Bŵer ac Ynni Cynaliadwy ac mae’n cynnwys ail flwyddyn a fydd yn eich galluogi i ymgymryd â lleoliad mewn diwydiant neu brosiect sy’n canolbwyntio ar ddiwydiant ar y cyd â phartner diwydiannol.