Trosolwg o'r Cwrs
Mae Hanes yn archwilio hanes canoloesol, modern cynnar a modern drwy bynciau sy’n cynnwys hanes a rhywedd menywod, cymdeithas fodern Prydain, hanes diwylliannol, a hanes crefydd, iechyd a meddygaeth.
Mae astudio’r cwrs gradd BA bedair-blynedd hon yn agor y drws ar ystod eang o gyfleoedd gyrfa gan eich helpu i ddatblygu sgiliau sy’n werthfawr iawn i gyflogwyr.
Mae’r flwyddyn sylfaen yn cynnig cyflwyniad cyffrous i addysg uwch, gan ddysgu rhagor i chi am y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol cyn symud ymlaen i’r rhaglen radd lawn. Mae hyn yn ddelfrydol os oes angen ychydig yn fwy o gefnogaeth arnoch yn dilyn addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd at addysg ar ôl cael amser i ffwrdd ohoni.
Mae 94% o’n graddedigion Hanes naill ai wedi’u cyflogi neu’n gwneud astudiaethau pellach o fewn chwe mis o raddio (Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch 2015).