Trosolwg o'r Cwrs
Mae Astudiaethau Americanaidd yn cwmpasu diwylliant, hanes a gwleidyddiaeth y wlad fwyaf dylanwadol yn y byd, a bydd y cwrs gradd BA integredig pedair blynedd hwn yn cynnig amrywiaeth o bosibiliadau gyrfa cyffrous drwy eich helpu i feithrin sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn rhoi llawer o werth arnynt.
Mae'r flwyddyn sylfaen yn rhoi cyflwyniad cyffrous i addysg uwch i chi, gan archwilio'r dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol cyn symud ymlaen i'r rhaglen gradd lawn. Mae'n ddelfrydol os oes angen ychydig mwy o gymorth arnoch ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd at addysg ar ôl cyfnod o amser.
Byddwch yn cael cyfle i astudio hanes, llenyddiaeth, gwleidyddiaeth a diwylliant America, o wladychu i arlywyddiaeth Donald Trump.
Mae Astudiaethau Americanaidd ym Mhrifysgol Abertawe yn y safle uchaf yn y DU am foddhad myfyrwyr (Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr, Complete University Guide 2018) a bydd gennych opsiwn o dreulio semester yn UDA yn ystod eich ail flwyddyn, gan wella eich profiad fel myfyriwr a'ch rhagolygon gyrfa ymhellach.