Bioleg, BSc (Anrh)

Fox

Trosolwg o'r Cwrs

Mae astudio organebau byw yn eu holl amrywiaeth yn hynod ddiddorol, ac mae'n ein helpu i nodi bygythiadau dybryd a chyfleoedd mawr, o'r raddfa leiaf i'r raddfa fwyaf.

Mae ein rhaglen Bioleg wedi'i dylunio i roi sylfaen gadarn i chi wrth astudio bywyd ac ecosystemau. Ochr yn ochr â hyn, byddwn yn sicrhau bod gennych chi'r arbenigedd gwyddonol a'r sgiliau trosglwyddadwy sydd eu hangen i wneud cyfraniadau ystyrlon at ddatrys heriau amgylcheddol a chymdeithasol presennol.

Bydd ehangder y cwricwlwm yn eich galluogi i ddatblygu eich gwybodaeth mewn perthynas â'r egwyddorion biolegol sy'n rheoli bywyd ar ein planed, gan feithrin dealltwriaeth glir o rywogaethau, cynefinoedd a phrosesau ecolegol.

Drwy gyfuniad o waith maes, ymchwil labordy ac astudio damcaniaethol, byddwch chi'n datblygu'r sgiliau i archwilio bywyd, o raddfa foleciwlaidd i astudio ecosystemau cyfan, gan ddatblygu'n gyfathrebwr effeithiol ac yn arweinydd cydweithredol, sy'n barod i fynd i'r afael â materion byd-eang megis colli bioamrywiaeth, newid yn yr hinsawdd ac argyfyngau amgylcheddol eraill.

Mae ein gradd yn defnyddio ymagweddau moesegol, cynaliadwy ac arloesol i'ch paratoi ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd ystyrlon ym meysydd bioleg, ecoleg, cadwraeth a rheoli amgylcheddol.

Pam Bioleg yn Abertawe?

Mae enw da gan Fioleg ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae'n denu myfyrwyr o bedwar ban byd. Byddwch yn astudio ar ein Campws Parc Singleton, mewn parcdir hardd sy'n edrych dros Fae Abertawe.

Byddwch chi'n ymuno ag adran perfformiad uchel - sydd ar hyn o bryd yn:

  • Y 11eg safle yn y DU am Ansawdd Ymchwil (Complete University Guide 2026)
  • Y 14eg safle yn y DU am Ymchwil - wedi'i asesu dan 'Gwyddorau Biolegol' (The Times and Sunday Times Good University Guide 2026)

Eich Profiad Bioleg

Mae gwaith maes yn rhan hanfodol o'r cwrs, gan eich galluogi i gymhwyso eich dysgu mewn lleoliadau byd go iawn, gan gynnwys yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol sydd ar ein stepen drws. Mae gwaith labordy hefyd yn elfen hollbwysig, a gallwch ddatblygu eich sgiliau yn ein labordai arloesol. Oherwydd bod bioleg yn faes mor eang, gallwch deilwra eich llwybr i ganolbwyntio ar waith maes neu waith labordy.

Bydd eich blwyddyn gyntaf yn darparu sylfaen gadarn mewn bioleg, gan gwmpasu amrywiaeth bywyd, bioleg gellog a microbaidd, ymddygiad anifeiliaid, ecoleg, esblygiad, geneteg a phwysigrwydd moroedd ar gyfer bywyd ar y Ddaear. Byddwch hefyd yn dysgu sgiliau craidd ysgrifennu gwyddonol, a chyflwyno a dadansoddi data.

Mae eich ail flwyddyn yn cynnwys cwrs maes preswyl ar ecoleg planhigion, gan eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau gwyddonol ymhellach. Mae'r cwrs maes yn sylfaen berffaith er mwyn arbenigo mewn microbioleg.

Yn y drydedd flwyddyn, mae addysgu'n cwmpasu ehangder cyfan bioleg, gyda themâu’n amrywio o fiotechnoleg foleciwlaidd i heriau byd-eang, a chyfleoedd i astudio bioleg organeb gyfan, esblygiad, ecoleg ac ymddygiad anifeiliaid. Gallwch hefyd fynd ar daith maes rhyngwladol i astudio ecoleg drofannol. Ar ddiwedd y flwyddyn, byddwch yn cwblhau prosiect ymchwil a fydd yn uchafbwynt i'ch astudiaethau.

Mae'r rhaglen hon yn cynnwys cyfleoedd i ymgymryd â blwyddyn dramor, gan gynnig profiad bywyd amhrisiadwy.

Mae'r cwrs hwn hefyd yn cynnig y cyfle i chi dreulio Blwyddyn ym myd Diwydiant, yn y DU neu dramor, gan eich galluogi i ennill profiad gwerthfawr yn y gweithle. Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau â thâl yn unig, sydd â chyflog gwerth mwy nag £20,000 ar gyfartaledd. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos.

Mae'r Flwyddyn mewn Ymchwil Gymhwysol yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau ymchwil uwch. Byddwch chi'n cael eich rhoi yn ein grwpiau ymchwil, ar raglen gyfnewid gyda'n partneriaid yng Nghaerwysg neu Aberystwyth, neu gellir cysylltu'r flwyddyn â diwydiant, neu gyfuniad o'r opsiynau hyn.

Mae'r Flwyddyn Sylfaen opsiynol ar gyfer y rhaglen hon yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i addysg uwch, ac yn sicrhau bod gennych y sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth y bydd eu hangen arnoch chi i fod yn llwyddiannus yn eich gradd israddedig. Mae'n berffaith os oes angen ychydig mwy o gymorth arnoch ar ôl addysg bellach, neu os ydych chi'n dychwelyd i addysg ar ôl seibiant. Ar ôl i chi gwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, byddwch chi'n symud ymlaen i Flwyddyn 1 eich gradd BSc.

Cyfleoedd Cyflogaeth Bioleg

Mae gan ein hadran gysylltiadau cryf â sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol megis Cyfoeth Naturiol Cymru, Cymdeithas Mamaliaid Prydain a Chanolfan Gwlyptiroedd Genedlaethol Cymru, sydd oll yn ychwanegu gwerth ar eich astudiaethau.

Mae ein cwricwlwm wedi'i deilwra'n benodol i wella cyflogadwyedd graddedigion a'ch helpu i greu argraff dda i gyflogwyr. Mae sgiliau gwirioneddol, sy'n canolbwyntio ar y cyflogwr, sy'n dechnegol ac yn drosglwyddadwy wedi'u cydblethu ym mhob modiwl.

Yn yr ail a'r drydedd flwyddyn, bydd gennych chi'r cyfle i ymuno â chynhadledd yrfaoedd, lle gwahoddir cyflogwyr i gynnal trafodaethau a gweithdai, er mwyn gwella eich gwybodaeth am gyfleoedd cyflogaeth, gan eich galluogi i weithio tuag at nod gyrfa penodol. Yn eich blwyddyn olaf, bydd gennych chi'r cyfle i ymgymryd â modiwlau sgiliau proffesiynol sy'n eich galluogi i brofi dysgu wedi'i efelychu gan waith, gan wella eich sgiliau yn barod ar y gyfer y gweithle.

Bydd gennych y cyfle hefyd i gael profiad gwaith gyda'n grwpiau ymchwil ar draws yr adran, sy'n cynnig lleoliadau gwaith byr, a chaiff traethodau hir eu halinio â chyflogwyr lle mae hynny'n bosibl. Mae partneriaid diwydiannol hefyd yn darparu cyrsiau hyfforddi rheolaidd. Mae cyflogadwyedd yn cael ei gydblethu yn y System Tiwtora Personol, a byddwch chi'n cael eich annog i greu cynllun datblygiad personol a thrafod eich dyheadau â'ch Tiwtor Personol.

Mae ein graddau wedi'u hachredu gan y Gymdeithas Bioleg Frenhinol. Mae rhai o'n staff yn aelodau o’r Sefydliad Siartredig Ecoleg a Rheoli Ecolegol, ac yn defnyddio'r rhwydwaith hwn i ddatblygu'r cwricwlwm a gwella sgiliau a chyfleoedd cyflogaeth myfyrwyr.

Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i sicrhau nifer o rolau proffesiynol, gan gynnwys gweithio fel:

  • Biotechnolegydd, Darlithydd neu Athro, Microbiolegydd, Nanodechnolegydd, Ecolegydd, Swyddog Cadwraeth Natur, Swyddog Bywyd Gwyllt ac Addysg, Swyddog Hydrometreg a Thelemetreg, Technegydd Gwyddonol, Tacsonomegydd Benthig, Ysgrifennydd, Ceidwad Anifeiliaid, Ffisiotherapydd Anifeiliaid, Gwyddonydd Pridd neu Dechnegydd Cnydau, yn ogystal â rolau mewn Cynaliadwyedd, Ecodwristiaeth, a sefydliadau rhyngwladol megis y Cenhedloedd Unedig, FAO, WWF, WHO ac UNESCO.

Darganfyddwch pam mae ein myfyrwyr wrth eu boddau'n astudio Biowyddorau yn Abertawe

Gwyliwch dreialon môr ein llong arolwg dosbarth catamaran newydd, y R.V. Mary Anning

Darganfyddwch sut rydym yn helpu i adfer cynefinoedd glaswellt y môr

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Bioleg, BSc (Anrh)

Bioleg gyda Blwyddyn Sylfaen, BSc (Anrh)

Bioleg gyda Blwyddyn Dramor, BSc (Anrh)

Bioleg gyda Blwyddyn mewn Ymchwil Gymhwysol, BSc (Anrh)

Bioleg gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, BSc (Anrh)