Trosolwg o'r Cwrs
Hoffech chi achub ar y cyfle i gael rôl allweddol wrth drawsnewid systemau iechyd a gofal? Ydych chi eisiau herio’r status quo a defnyddio eich syniadau blaengar i ddatblygu systemau a gwasanaethau sy’n fuddiol i’r claf a’r sefydliad?
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i alluogi rheolwyr canol ac uwch mewn systemau iechyd a gofal cymdeithasol yn y DU ac yn fyd-eang i arwain newid trawsnewidiol ac ysgogi arloesi mewn systemau, prosesau a thechnolegau gofal iechyd.
Mae'r angen cynyddol am systemau iechyd a gofal sy'n cael eu hybu gan werthoedd yn chwilio am arweinwyr sy'n gallu trawsnewid sefydliadau a systemau cyfan. Mae heriau'r dyfodol yn galw am ymagwedd newydd a radical a ategir gan egwyddorion doeth, i arwain newid, harneisio technolegau newydd a herio diben, gwerth a lleoliad darpariaeth gwasanaeth presennol ar gyfer dinasyddion.
Bydd y rhaglen hon yn eich galluogi i wireddu arloesedd ar lefel leol, gyda'r potensial i arwain trwy drawsnewid ar lefel systemau. Gan ddefnyddio meddylfryd ac Arloeswyr Comisiwn Bevan , ynghyd â safbwyntiau Arweinwyr Arloesi'r GIG, diwydiant a'r sector ehangach, byddwch yn cael gwybodaeth amhrisiadwy o lygad y ffynnon i gymhwyso'r damcaniaethau y byddwch yn eu hastudio.
Mae gwella eich sgiliau rheoli i ymateb i'r gofynion mewn amgylchedd iechyd a gofal modern yn allweddol i sicrhau eich bod yn gallu arwain sefydliadau drwy heriau arloesol a thrawsnewidiol yn llwyddiannus.
Mae'r llwybr hwn yn llwybr academaidd a phroffesiynol hanfodol i'r rhai hynny sy'n ceisio datblygu gyrfa mewn arweinyddiaeth iechyd, polisi, comisiynu, trawsnewid digidol ac arloesi systemau.
Mae ysgoloriaethau cyfyngedig ar gael:Ewch i'r adran Ysgoloriaethau isod, am ragor o fanylion.
