Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r MA mewn Rhyfel a Chymdeithas yn gwrs hollol unigryw sy'n archwilio'r digwyddiadau arwyddocaol a arweiniodd at newid treisgar drwy gydol hanes dynol ryw.
Byddwch yn ceisio ymchwilio i ystyr rhyfel, a darganfod diffiniad ystyrlon. Wedi'u dadansoddi drwy sawl cyd-destun gan gynnwys y gwleidyddol, cymdeithasol, diwylliannol, technolegol, hanesyddol, milwrol a'r cyfryngau, byddwch yn dysgu sut y gall negeseuon gael eu gwyrdroi mewn ffyrdd cynnil a soffistigedig.
Mae hon yn rhaglen MA ryngddisgyblaethol a chydweithredol a ategir gan yr holl arbenigedd ymchwil sydd i'w gael yn Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu.