Hanes Cyhoeddus a Threftadaeth, MA

Defnyddio'r gorffennol, i lywio dy ddyfodol

Myfyrwyr ym Mharc Singleton

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r MA mewn Hanes  a Threftadaeth Cyhoeddus yn rhaglen hyblyg sydd wedi'i chynllunio i gynnig hyfforddiant academaidd, i'r rhai hynny sydd â diddordeb mewn gyrfaoedd ymchwil, a'r sgiliau cyflogadwyedd perthnasol y mae eu hangen ar gyfer y sector treftadaeth.

Mae ystod o fodiwlau ysgogol yn cwmpasu pynciau fel astudiaethau amgueddfeydd, treftadaeth gwrthdaro, Eifftoleg, gwareiddiadau hynafol, astudiaethau canoloesol, a hanes cyfoes.

Drwy gydol eich astudiaethau, fe'ch anogir i feithrin eich ymwybyddiaeth ddadansoddol a methodolegol o gysyniadau allweddol, a dulliau o gyfleu'r gorffennol i wahanol gynulleidfaoedd cyhoeddus. Byddwch chi hefyd yn dysgu mwy am hanes treftadaeth, a rôl fywiog hanes a threftadaeth cyhoeddus mewn dadleuon byd-eang. 

Byddwch yn tynnu ar arbenigedd ysgolheigion a gydnabyddir yn rhyngwladol ac yn cael profiad ymarferol drwy raglen lleoliadau gwaith. Mae'r sefydliadau rydyn ni'n gweithio gyda nhw yn cynnwys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cadw, yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd, ac amgueddfeydd, archifau ac orielau ledled de Cymru. Gallech hefyd weithio gydag elusennau, prosiectau treftadaeth lleol, a sefydliadau ymchwil.

Yn ail ran y cwrs, cewch ddewis cwblhau prosiect traethawd hir ymarferol gwerth 60 credyd, neu brosiect traethawd hir ysgrifenedig gwerth 60 credyd.

Pam Hanes Cyhoeddus a Threftadaeth yn Abertawe?

Bydd Prifysgol Abertawe yn eich cysylltu â sefydliadau treftadaeth allanol uchel eu parch, gan eich galluogi i ennill profiad ymarferol drwy gydol eich astudiaethau.

Byddwch chi'n astudio ar ein campws prydferth ym Mharc Singleton, mewn parcdir hardd  sy'n edrych dros Fae Abertawe wrth ymyl Penrhyn Gŵyr. Mae gan y campws ardd fotaneg a sawl adeilad hanesyddol gan gynnwys Abaty Singleton, plasty Gradd II o'r 19eg ganrif. Mae'r rhaglen yn gweithio'n agos gydag archifau a chasgliadau'r Brifysgol gan gynnwys y Ganolfan Eifftaidd sy'n adnabyddus yn fyd-eang, Llyfrgell Glowyr De Cymru, casgliadau celf y Brifysgol, ac Archifau Richard Burton. 

Addysgir y rhaglen yn yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu, cartref Canolfan y Graddedigion sydd â'r nod o hyrwyddo gweithgarwch ymchwil unigol a chydweithredol o safon ryngwladol, gan ddarparu amgylchedd cefnogol i fyfyrwyr sy'n ymgymryd ag ymchwil ôl-raddedig ac astudiaethau meistr a addysgir.

Rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant ôl-raddedig i ehangu datblygiad academaidd a phroffesiynol ac yn hwyluso rhaglenni seminar, gweithdai a chynadleddau rhyngwladol drwy ein canolfannau ymchwil: CHART (y Ganolfan Ymchwil a Hyfforddiant Treftadaeth), OLCAP (y Grŵp Ymchwil ar gyfer Ymagweddau at y Gorffennol sy’n seiliedig ar Wrthrychau a Thirwedd), a KYKNOS (y Ganolfan ar gyfer Ymchwil i Lenyddiaethau Naratif yr Henfyd).

Byddwch yn ymuno ag adran flaenllaw, sy'n adnabyddus am ei hymchwil a'i harbenigedd:

  • Dyfarnwyd bod 100% o'r effaith yn sgîl ein hymchwil yn arwain y ffordd yn fyd-eang neu'n rhagorol yn rhyngwladol (REF 2021)

Eich Profiad Hanes Cyhoeddus a Threftadaeth

Cynlluniwyd y rhaglen hon i gynnig hyblygrwydd i'ch galluogi i ddewis modiwlau sy'n cyd-fynd â'ch diddordebau personol a'ch nodau ar gyfer y dyfodol.

Rhan allweddol o'r rhaglen yw'r cyfle i fyfyrwyr ymgysylltu â sefydliadau treftadaeth allanol a phrosiectau staff ym maes treftadaeth a hanes cyhoeddus.

Os oes gennych ddiddordebau mewn treftadaeth a diwylliant deunyddiau, gallwch ymgymryd â modiwlau fel 'Understanding GLAM: Galleries, Libraries, Archives and Museums’ a 'Debates and Approaches in Public History and Heritage'. Os oes gennych ddiddordebau hanesyddol, gallwch ymgymryd â modiwlau fel Heritage and Conflict’, ‘Radical Histories’ a ‘Transformations in 20th C Wales.’  Byddwch hefyd yn gallu astudio llawysgrifau canoloesol a thirweddau hynafol fel rhan o'r rhaglen.

Mae'r modiwlau sydd ar gael yn meithrin sgiliau sy'n adeiladu tuag at y traethawd hir y byddwch chi'n ei ysgrifennu o dan gyfarwyddyd goruchwyliwr arbenigol.

Caiff strwythur y cwrs amser llawn ei rannu ar draws y flwyddyn, gan gynnig tri modiwl ym mhob semester academaidd, a dewis o draethawd hir ysgrifenedig safonol neu draethawd hir ymarferol i'w gwblhau dros yr haf.

Os ydych chi'n dewis astudio'r cwrs rhan-amser, byddwch chi fel arfer yn astudio un modiwl gorfodol a dau fodiwl dewisol yn y flwyddyn gyntaf a'r ail flwyddyn, gan gwblhau traethawd hir yn ystod haf yr ail flwyddyn hefyd.

Hefyd, mae opsiwn i gymryd MA estynedig gyda semester yn astudio dramor, gan fod y radd MA Estynedig yn cael ei chyflwyno mewn partneriaeth â Phrifysgol Talaith Appalachian.

Bydd eich adnoddau astudio yn cynnwys prif lyfrgell sydd â chasgliad arbennig o dda, gan gynnwys ffynonellau treftadaeth a hanes cyhoeddus, cynnwys archaeolegol, twristiaeth a rheoli, cymdeithaseg, gwleidyddiaeth, ac ysgolheictod hanesyddol perthnasol. Mae casgliadau'r llyfrgell yn cynnwys amrywiaeth eang o gyfnodolion cyffredinol ac arbenigol a nifer cynyddol o adnoddau digidol arbenigol. Mae ystafell gyffredin ôl-raddedig ac ystafell adnoddau electronig ar gael yn Adeilad James Callaghan.

Hefyd byddwch chi'n cael mynediad at y casgliadau a'r adnoddau yn y Ganolfan Eifftaidd ac Archifau Richard Burton ar y campws ac yn elwa o Ganolfan y Celfyddydau Taliesin.

Cyfleoedd Cyflogaeth Hanes Cyhoeddus a Threftadaeth

Bydd y cwrs hwn yn datblygu eich sgiliau cyflogadwyedd drwy eich cysylltu â sefydliadau treftadaeth allanol. Byddwch chi'n meithrin dealltwriaeth ardderchog o wahanol fathau o yrfaoedd yn y sector treftadaeth ac yn dysgu cyflwyno'ch syniadau mewn gwahanol fformatau. Bydd sgiliau ymchwil, cyfathrebu a datrys problemau cryf i gyd yn rhoi hwb i’ch rhagolygon cyflogaeth.

Mae graddedigion y cwrs hwn wedi cael cyflogaeth yn y meysydd canlynol:

  • Addysg, amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau, rheoli treftadaeth a thwristiaeth, y cyfryngau a marchnata, ymchwil, busnes, elusennau, llywodraeth, a'r gwasanaeth sifil.

Modiwlau

Byddwch chi'n astudio chwe modiwl dewisol gwerth 20 credyd cyn cyflawni prosiect traethawd hir ymarferol gwerth 60 credyd neu brosiect traethawd hir ysgrifenedig gwerth 60 credyd. Mae'r modiwlau yn cynnwys opsiynau mewn hanes yr henfyd, diwylliant yr hen Aifft, hunaniaethau Cymreig, ymarfer amgueddfa a lleoliad gwaith.

Cwrdd â'n Graddedigion

selfie of rebecca

Rebecca Johnson

"Rwyf wir wedi mwynhau'r rhaglen radd Hanes Cyhoeddus a Threftadaeth a'r holl fodiwlau eleni. Mae'r staff wedi bod mor gyfeillgar a chefnogol drwy gydol yr amser, gan sicrhau fy mod wedi gwneud yn fawr o'm rhaglen! Mae'r radd a'r profiad wir wedi gwneud i mi sylweddoli mai hanes cyhoeddus fydd yr yrfa i mi yn y dyfodol!"

Rachel Taylor

"Cefais brofiad gwych yn astudio ar gyfer y radd MA mewn Hanes Cyhoeddus a Threftadaeth. Mae fy nysgu ar y cwrs wedi fy helpu i sicrhau swydd yn y sector treftadaeth ac wedi rhoi sylfaen gref y gallaf ddibynnu arni yn fy rôl broffesiynol. Cefais lawer o gefnogaeth a gwnes fwynhau'r cwrs yn fawr iawn. Byddwn yn argymell y rhaglen i unrhyw un sy'n dymuno astudio'r maes hwn."

Selfie of Rachel