Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Cymraeg

Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir

Mae ein rhaglenni wedi'u llywio gan yr ymchwil ddiweddaraf, sy'n sicrhau y byddwch yn dysgu am themâu blaengar. Mae ein staff yn arbenigwyr mewn meysydd sy'n cynnwys llenyddiaeth fodern a chanoloesol, beirniadaeth lenyddol, golygu testunau canoloesol a modern, dwyieithrwydd a chynllunio ieithyddol, drama ac ysgrifennu creadigol.

Gallwch fynd â'ch addysg ymhellach drwy astudio am radd Meistr mewn prifysgol sydd ymysg y 30 orau yn y Deyrnas Unedig o ran ymchwil (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014-21).