Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r MA mewn Hanes Cyhoeddus a Threftadaeth yn ddelfrydol os ydych yn anelu at ddilyn gyrfa yn y maes hwnnw. Cynigiwn raglen hyblyg sydd wedi'i chynllunio i gynnig hyfforddiant academaidd a sgiliau cyflogadwyedd perthnasol.
Cewch y cyfle i ymgysylltu â sefydliadau treftadaeth allanol ac ennill profiad ymarferol o brosiectau staff ym maes treftadaeth a hanes cyhoeddus.
Mae amrywiaeth o fodiwlau diddorol a pherthnasol ar gael, sy'n cwmpasu pynciau o'r Hen Aifft, Groeg, a Rhufain i hanes lleol cyfoes.
Yn ail ran y cwrs cewch ddewis o brosiect traethawd hir ymarferol 60 credyd, neu brosiect traethawd hir ysgrifenedig 60 credyd.