Nyrsio (Oedolion), BSc (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
nursingswansea

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd ein gradd Nyrsio Oedolion a gydnabyddir yn rhyngwladol yn rhoi'r sgiliau a'r profiad i chi ddechrau mewn gyrfa wobrwyol yn y proffesiwn amrywiol a hanfodol hwn.

Yn ystod y rhaglen hon a gymeradwywyd gan yr NMC ac a gomisiynwyd gan AaGIC, byddwch yn dysgu am anghenion cyfannol pobl, o oedolion ifanc i oedolion hŷn.

Wedi'i seilio ar athroniaeth gofal sy'n canolbwyntio ar y person, sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n cael ei llywio gan werthoedd, mae'r rhaglen yn pwysleisio tosturi, cynhwysiant a phartneriaeth â phobl, teuluoedd a chymunedau.

Ein nod yw datblygu ymarferwyr myfyriol, atebol sy'n gallu ymateb i anghenion iechyd cymhleth a newidiol cymdeithas, ac sy'n gallu cyfrannu at wella canlyniadau iechyd yng Nghymru, y DU, ac yn rhyngwladol.

Tua hanner eich addysgu fydd dysgu yn y brifysgol, a bydd yr hanner arall ar ffurf lleoliadau clinigol mewn amgylcheddau gofal iechyd. Mae gennym berthynas ardderchog â llawer o ddarparwyr gofal iechyd, felly bydd gennych fynediad at ystod eang o leoliadau ledled de-orllewin Cymru, yn y GIG a'r sector annibynnol, mewn ysbytai a lleoliadau cymunedol.

Ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol yn unig:

Sylwer, does dim lleoedd rhyngwladol wedi'u hariannu ar gael ar gyfer mynediad ym mis Medi 2026. Bydd angen i ymgeiswyr rhyngwladol llwyddiannus ariannu eu ffïoedd dysgu eu hunain, yn ogystal â'r ffi ymarfer clinigol (gweler yr adran "Costau Ychwanegol" ). Ni allwn gadarnhau a fydd lleoedd wedi'u hariannu ar gael ar gyfer mynediad ym mis Mawrth 2027 ar hyn o bryd.

Mae Blwyddyn Sylfaen sy'n arwain at BSc Nyrsio Oedolion ar gael i fyfyrwyr rhyngwladol - ewch i dudalen Llwybr Sylfaen Nyrsio a Gofal Iechyd y Coleg am ragor o wybodaeth.

Pam astudio Nyrsio Oedolion ym Mhrifysgol Abertawe?

Yn ystod eich amser yn dysgu yn y brifysgol, byddwch yn astudio ar ein campws prydferth ym Mharc Singleton, mewn parcdir hardd sy'n edrych dros Fae Abertawe wrth ymyl penrhyn Gŵyr. 

Mae gennym enw da rhagorol am nyrsio, ac ar hyn o bryd rydym yn y safleoedd canlynol:

  • 3ydd yn y DU am Ragolygon Gyrfa (aseswyd o dan Nyrsio Cyffredinol, Guardian University Guide 2026)
  • 4ydd  yn y DU am Ansawdd Ymchwil (Complete University Guide 2026)
  • 6ed  yn y DU o ran Rhagolygon Graddedigion (Complete University Guide, 2026)
  • 7fed yn y DU am Ragolygon Graddedigion (Times Good University Guide 2026)

Mae ein staff academaidd yn nyrsys, yn feddygon ac yn weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd cymwysedig, ac mae llawer ohonynt hefyd yn glinigwyr wrth eu gwaith, sy’n sicrhau y gallwn ni ddarparu cyfuniad eithriadol o drylwyredd damcaniaethol, dealltwriaeth broffesiynol, ac arbenigedd ymarferol.

Mae gennym gysylltiadau cryf â byrddau iechyd Cymru, gan gynnig cyfleoedd lleoliad gwaith clinigol i chi mewn amrywiaeth o leoliadau trefol a gwledig. At hynny, mae'r ysbyty agosaf yn rhannu ffin â'n Campws Singleton.

Os ydych yn fyfyriwr o’r DU a gallwch ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio, gallai eich ffïoedd dysgu gael eu talu’n llawn drwy Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru, a gallech gael cyllid cynhaliaeth a benthyciad cyfradd is gan Gyllid Myfyrwyr.

Gweler ein tudalen we Cyllid y GIGi wirio a ydych yn gymwys i gael cyllid cyn cyflwyno cais.

Eich profiad ym maes Nyrsio Oedolion

Mae ein rhaglen nyrsio wedi'i chynllunio'n bwrpasol i feithrin nyrsys diogel, effeithiol a thosturiol sy'n barod ar gyfer realiti amgylcheddau gofal iechyd modern ac amlddisgyblaethol.

Byddwch yn cael manteisio ar ein cyfleusterau rhagorol gan gynnwys ystafelloedd clinigol realistig i chi roi eich gwybodaeth ddamcaniaethol ar waith yn uniongyrchol mewn amgylchedd sy'n adlewyrchu, mor agos â phosibl, yr amodau go iawn y byddwch chi'n cael profiad ohonynt ar leoliad gwaith mewn ysbyty neu leoliad cymunedol.

Mae myfyrwyr nyrsio hefyd yn elwa o gael mynediad at SUSIM ar ein campysau yn Abertawe a Chaerfyrddin; y gosodiad mwyaf o dechnoleg wal ymdrochol yn y byd. Mae'r cyfleuster unigryw hwn yn golygu bod gennych y gallu i ymarfer sgiliau allweddol a gwaith tîm mewn amrywiaeth o senarios bywyd go iawn efelychedig.

Mae'r rhaglen yn cynnwys 4,725 awr o ddysgu, wedi'i gydbwyso'n gyfartal rhwng dysgu damcaniaethol ac ymarfer. Mae agweddau allweddol ar nyrsio gan gynnwys ymchwil, arweinyddiaeth, llythrennedd digidol, y gyfraith, diogelu, cydsyniad, ffarmacoleg, gweinyddu ac optimeiddio meddyginiaethau, ac ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth wedi'u hintegreiddio ym mhob modiwl.

Dyma gwrs amser llawn sy'n cynnwys naw modiwl dilyniannol 40 credyd, gyda thri ohonynt yn cael eu cwblhau ym mhob blwyddyn  astudio. Mae dulliau dysgu ac addysgu wedi'u cynllunio i hwyluso dysgu annibynnol, ac i wneud defnydd o'ch sgiliau astudio presennol, eich gwybodaeth flaenorol a'ch profiadau. Mae'r holl fodiwlau yn cynnwys sesiynau a addysgir, ymarfer, astudio'n annibynnol ac e-ddysgu.

Gyrfaoedd Nyrsio

Mae'r rhaglen hon yn cynnig sylfaen gadarn ar gyfer gyrfa gydol oes ym maes nyrsio, boed hynny mewn gofal cleifion uniongyrchol, rolau clinigol uwch, arweinyddiaeth, addysg neu ymchwil. Mae graddedigion yn hynod gyflogadwy, a cheir cyfleoedd i weithio'n lleol, yn genedlaethol neu'n rhyngwladol.

Ar ôl graddio, byddwch yn gymwys i gyflwyno cais am statws Nyrs (Oedolion) Gofrestredig gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC), ac i gofrestru fel nyrs i weithio yn yr UE a’r AEE.

Bydd myfyrwyr y DU hefyd yn gallu cael mynediad at gyllid y GIG i dalu cost hyfforddiant. Bydd angen i'r rhai hynny sy'n cael y fwrsariaeth ymrwymo i weithio yng Nghymru yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol cyhoeddus/preifat/annibynnol am hyd at ddwy flynedd ar ôl cofrestru gyda'r NMC.

Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, mewn cytundeb â byrddau iechyd a phrifysgolion GIG Cymru ledled Cymru, wedi datblygu ac yn rheoli proses baru o dan y Cynllun Symleiddio i Fyfyrwyr. Ar ddiwedd eich rhaglen, byddwch yn gallu gwneud cais am swyddi gwag ledled Cymru drwy'r cynllun.

Gallwch ddisgwyl ennill cyflog cychwynnol o £28,407, a fydd yn codi i £57,349 i nyrs staff brofiadol. Gall nyrsys arbenigol a rheolwyr ymarfer ennill £50,056.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Nyrsio (Oedolion), BSc (Anrh)