Amlinellir isod y gwerthoedd craidd sy'n tanategu'r GIG yng Nghymru fel y nodwyd yn Fframwaith Gwerthoedd a Safonau Ymddygiad GIG Cymru isod. Dylai pob ymgeisydd fod yn gyfarwydd â'r rhain ar adeg gwneud y cais.

Rhoi ansawdd a diogelwch uwch bopeth arall. Darparu gofal uchel ar sail tystiolaeth ar gyfer ein cleifion drwy gydol yr amser.

Integreiddio gwelliant mewn i weithio dyddiol a gan ddileu niwed, amrywiad a gwastraff.

Canolbwyntio ar atal, gwella iechyd ac anghydraddoldeb fel allwedd i ddatblygiad cynaladwy, llesiant a lles i genedlaethau'r dyfodol o bobl Cymru.

Gweithio mewn gwir bartneriaeth gyda sefydliadau partner a chyda staff.

Buddsoddi yn ein staff trwy hyfforddiant a datblygiad, gan eu galluogi i ddylanwadu ar benderfyniadau a darparu'r offer, y systemau a'r amgylchedd iddynt i weithio'n ddiogel ac yn effeithiol.