Pam fod angen gwiriad iechyd galwedigaethol arnoch chi cyn dechrau ar eich cwrs

Rhaid i ni sicrhau bod statws iechyd ein myfyrwyr yn bodloni gofynion ein darparwyr lleoliadau gwaith. Mae'r broses sgrinio Iechyd Galwedigaethol yn rhan annatod o'r broses ymgeisio o ran Ffitrwydd i Ymarfer. Er mwyn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â disgwyliadau darparwyr gwasanaethau addysg, disgwylir i bob un o'n myfyrwyr gydymffurfio â pholisïau perthnasol.

Darllenwch y polisïau isod cyn gwneud eich cais i unrhyw gyrsiau sydd â lleoliadau profiad gwaith.

Sgrinio am Alergedd i Latecs

Os ydych chi’n amau, neu yn gwybod, fod gennych alergedd i latecs, cysylltwch â Cathy Anthony o’r adran Iechyd Galwedigaethol, cyn cyflwyno cais os gwelwch yn dda.

E-bost: c.anthony@swansea.ac.uk

Ffôn: +44 (0) 1792 295538

Y broses gwiriad Iechyd Galwedigaethol

1. Unwaith eich bod chi wedi cael cynnig lle y cwrs o’ch dewis, bydd ffurflen datganiad iechyd yn cael ei anfon atoch, i chi ei gwblhau. Bydd angen i chi gwblhau’r ffurflen, ac yna gofyn i’ch Meddyg Teulu i gadarnhau ei fod yn gywir. Mae amod ynglwm wrth bob cynnig o le ar gwrs, sef bod yn rhaid dychwelyd y ffurflen hon o fewn yr amser o nodir.

2. Bydd staff yr adran Iechyd Galwedigaethol yn gwirio’r ffurflen, ac efallai y byddan nhw’n rhoi gwahoddiad i chi ddod i mewn am apwntiad i drafod y wybodaeth sydd ar y ffurflen.

 Yn ystod yr apwyniad:

  • byddwn yn asesu a ydych yn addas i ymarfer
  • cewch gyfle i drafod unrhyw gefnogaeth sydd ei angen arnoch, o ran eich iechyd.

Nodwch, os gwelwch yn dda:

Os byddwn ni’n gofyn i chi fynychu apwyntiad iechyd galwedigaethol, efallai y bydd yn digwydd cyn i chi gofrestru a dechrau ar eich astudiaethau.