Yr Her
Mae Carbon Deuocsid (CO2) a nwyon gwastraff eraill yn cyfrannu at Olion Troed diwydiannol lleol a byd-eang sy’n cael effaith uniongyrchol ar newid yn yr hinsawdd a’r argyfwng hinsawdd sy’n esblygu
Mae Carbon Deuocsid (CO2) a nwyon gwastraff eraill yn cyfrannu at Olion Troed diwydiannol lleol a byd-eang sy’n cael effaith uniongyrchol ar newid yn yr hinsawdd a’r argyfwng hinsawdd sy’n esblygu
Mae ymchwil Dr Preedy yn canolbwyntio ar ddefnyddio Carbon Deuocsid gwastraff i helpu i dyfu algâu er mwyn glanhau mygdarth gwastraff gan ddiwydiant lleol.
Er mwyn mynd i’r afael â’r allyriadau hyn bydd Dr Preedy a’i thîm o RICE yn dylunio, yn adeiladu ac yn cyflogi Bio-burfa Integredig.
Bydd y Bio-burfa’n defnyddio microalgâu (a dyfir ac a gylchredir trwy diwbiau tal a gedwir mewn fframiau) i fwyta nitradau, ffosffadau a CO2 yng ngwastraff diwydiannol, domestig ac amaethyddol er mwyn cynhyrchu cynhyrchion defnyddiol o werth uchel.
Gall coed a phlanhigion ddal CO2 ar gyfer ffotosynthesis a gall algâu ddefnyddio’r un broses gan feddu ar y gallu i ddal ac ailddefnyddio hyd at 1.8kg o CO2 y cilogram o fio-màs algaidd.
Po fwya’r algâu y gellir eu tyfu, mwyaf y CO2 y gellir ei gasglu o’r allyriadau gwastraff yn ogystal â’r cynhyrchion y gellir eu cynaeafu a’u cynhyrchu o ddeunyddiau’r planhigyn.
Prosesau gwyrddach a lleihau ôl troed Carbon
Gan mai sicrhau sero allyriadau carbon erbyn 2050 yw’r nod, mae tyfu microalgâu yn gam yn y cyfeiriad cywir tuag at leihau’r allyriadau sy’n cael eu rhyddhau i’r atmosffer, h.y. 1.8kg o CO2 y cilogram o fio-màs algaidd a chyflawni dyfodol glanach.
Cynhyrchion Gwerth Uchel
Mae pigmentau’n bresennol mewn microalgâu, megis cloroffyl sy’n gyffredin ymhlith pob planhigyn ond mae rhywogaethau penodol o algâu yn cynnwys pigmentau megis Ffycosyanin sy’n werth tua £72,000 y cilogram.
Mae algâu a gynaeafir hefyd yn llawn maetholion megis Omega-3 sydd, ar ôl iddo gael ei buro, yn gallu cael ei ddefnyddio i gynhyrchu ystod o faetholion ac atchwanegiadau.
Gall y gwaith o gynhyrchu cynhyrchion gwerth uchel o’r fath felly weithredu fel cymhelliant i ddiwydiant gan eu galluogi i adennill costau sefydlu cychwynnol ac elwa o’u cynhyrchu.