Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r MA mewn Diogelwch a Datblygu Rhyngwladol yn eich cyflwyno i'r prif faterion a dadleuon critigol sydd ynghlwm wrth faes hynod ddifrifol.
Mae diogelwch, trais a gwrthdaro bellach yn rhan ganolog o wleidyddiaeth ryngwladol a thrafodaethau am bolisi datblygu. Mae deall y byd modern yn mynnu gwerthfawrogi gwrthdaro a thrais yn llawn.
Ar y cwrs hwn byddwch yn edrych ar y sylw a roddir i faterion diogelwch 'traddodiadol' fel rhyfel a gwrthdaro, yn ogystal â materion 'anhraddodiadol' fel sicrwydd economaidd, diogelu'r amgylchedd, iechyd a mudo.
Gan fanteisio ar arbenigedd yr adran ym maes diogelwch, byddwch yn cael cyflwyniad lefel uwch i'r prif agweddau ar astudio diogelwch.
Mae'r rhain yn cwmpasu realaeth, theori diogelu, dulliau ffeministaidd, theori feirniadol ac ôl-strwythuroldeb.