ENNILL CYMORTH ARIANNOL A CHRYFHAU DY CV

Mae ein Hysgoloriaethau Hyrwyddo'r Dyfodol ar gael i ddeiliaid cynnig rhaglen Meistr a addysgir yn y Gwyddorau Cymdeithasol.

Mae'r ysgoloriaeth hon yn cynnig mwy na chymorth ariannol. Bydd y rhai sy'n derbyn ysgoloriaeth yn elwa o gyfleoedd i ennill sgiliau a fydd yn gwella eu gyrfa.  Anogir derbynwyr i:

  • Weithio gyda thîm marchnata'r Ysgol i helpu i hyrwyddo'r ysgoloriaethau a'r Ysgol;
  • Ymuno ag un o'r cymdeithasau myfyrwyr sy'n gysylltiedig â'r Ysgol, neu fod yn gynrychiolydd cwrs ar gyfer eu rhaglen radd;
  • Cyfrannu at ddatblygu a rheoli Canolfan Graddedigion yr Ysgol.