Croeso i'r Adran Troseddeg, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol

Yn Abertawe, mae Troseddeg yn y 4edd safle yn y Deyrnas Unedig ar gyfer Boddhad â'r Cwrs (Guardian University Guide 2023), mae Cymdeithaseg yn y 10 adran orau yn y DU am Foddhad Cyffredinol (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2022) ac mae Polisi Cymdeithasol yn y 5ed safle yn y DU ar gyfer Ansawdd Addysgu (Times Good University Guide 2023).

Rydym yn gartref i brofiad a chymorth rhagorol i fyfyrwyr, gyda thîm ymroddedig sy'n darparu cymorth cyflogadwyedd, cymorth academaidd a chymorth personol drwy gydol eich gradd, ac rydym yn buddsoddi yn nyfodol ein myfyrwyr, gan gynnig addysgu , mannau cymdeithasol a mannau astudio o’r radd flaenaf, yn ogystal â chyfleusterau sy'n arwain y ffordd yn y sector.