Cynradd gyda SAC, PGCert

TAR Cynradd gyda SAC

Myfrywr

Trosolwg o'r Cwrs

Nod y rhaglen TAR Cynradd gyda statws athro cymwysedig (SAC) yw rhoi profiad dysgu i chi ar draws yr ystod oedran 3-11, gan roi i chi'r gallu i addysgu drwy gydol y camau cynnydd hyn yn y cwricwlwm cynradd presennol.

Cynigir y rhaglen drwy Bartneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe (SUSP);  rhwydwaith addysg athrawon cydweithredol sy'n dod â Phrifysgol Abertawe, ei hysgolion partner a darparwyr addysg eraill ynghyd.  Rydym yn tynnu ar yr arbenigedd hwn i gyfuno rhagoriaeth academaidd â phrofiad ymarferol, er mwyn eich paratoi i ennill SAC.

Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda'n hysgolion partner i deilwra lleoliadau gwaith i'ch anghenion, gan flaenoriaethu eich lles drwy gymorth mentor, clinigau a Diwrnodau Ymarfer a Theori sy'n canolbwyntio ar feysydd megis amrywiaeth, cynaliadwyedd a dysgu yn yr awyr agored.

Mae'r rhaglen yn cynnwys 60 niwrnod o fewnbwn gan y Brifysgol a 120 o ddiwrnodau lleoliad ysgol mewn dwy ysgol. Bydd staff ysgolion a'r Brifysgol yn cydweithio i'ch cefnogi chi, fel athro dan hyfforddiant, i symud ymlaen i gwblhau'r cwrs yn llwyddiannus a chyflawni SAC.

Fel rhan o'r radd, byddwch yn creu portffolio electronig o dystiolaeth, a elwir yn Basport Dysgu Proffesiynol, a fydd yn nodi eich cynnydd a'ch gallu yn erbyn pob un o'r Safonau Dysgu ac Arweinyddiaeth Proffesiynol. Bydd cyflwyno tystiolaeth lwyddiannus o fodloni'r holl Safonau, ynghyd â chwblhau asesiadau Lefel 7 yn llwyddiannus, yn arwain at gyflwyno argymhelliad i Gyngor y Gweithlu Addysg y dyfernir SAC i chi. Byddwch dim ond yn gallu ymarfer fel athro ar ôl i'ch SAC gael ei gadarnhau gan Gyngor y Gweithlu Addysg.

Yr hyn sy'n gwneud y rhaglen hon yn unigryw yw ar ôl cael profiad ar leoliadau dysgu  sy’n cwmpasu’r cyfnod oedran cynradd cyfan, gallwch ddewis arbenigo mewn cyd-destunau Anghenion Dysgu Ychwanegol neu Bob Oedran (3-18), gan ehangu'ch gwybodaeth a'ch profiad ymhellach.

Pam Cynradd gyda SAC yn Abertawe?

Mae'r rhaglen TAR Cynradd ym Mhrifysgol Abertawe yn datblygu enw da am ragoriaeth mewn addysg athrawon o ganlyniad i’w hasesu ffurfiannol cadarn, dewisiadau helaeth i ddysgwyr, ymchwil ategol ac arferion arloesol, gan gynnwys dosbarthiadau arsylwi, defnyddio Hydra (ein hystafell efelychu ymdrochol) i efelychu senarios bywyd go iawn mewn amgylchedd dysgu diogel a phrofiadau sy'n cyfoethogi profiad y myfyrwyr megis Technocamps a dysgu iaith arwyddion Prydain (BSL).

 Cafodd ein rhaglen TAR Cynradd glod mawr yn adroddiad Estyn (2024), lle canmolwyd y rhaglen am 'y ffordd ofalus y mae'n cyfuno theori ac ymarfer', 'yn cefnogi lles myfyrwyr yn gryf' ac 'yn defnyddio ymagwedd fyfyriol sy'n seiliedig ar ymchwil.’  Cafnu'r arolygwyr fod 'yr athrawon dan hyfforddiant yn teimlo eu bod yn cael eu parchu a'u cefnogi.'

At hyn, bydd Partneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe yn cynnig Addysg Gychwynnol Athrawon o safon a arweinir gan ymarferwyr ac ymchwil, i gyflwyno ei gweledigaeth o ddatblygu unigolion fel chi i fod yn ymarferwyr myfyriol a gwybodus, sy'n gallu cyfrannu'n sylweddol at ansawdd addysg yng Nghymru.

Bydd y rhaglen drwyadl hon yn eich herio'n academaidd ac yn broffesiynol. Bydd y radd yn cynnig y cyfleoedd angenrheidiol i chi fynd i'r afael â'r holl Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth, drwy brofiadau dysgu cyfoethog sy'n canolbwyntio ar ddatblygu eich hyfedredd proffesiynol.

Mae pob agwedd ar y cwrs wedi'i datblygu ar y cyd â SUSP a bydd yn cael ei chyflwyno, gan sicrhau ei hansawdd a'i hadolygu mewn partneriaeth, i atgyfnerthu'r cydweithrediad hwn drwy gydol y flwyddyn.

Eich Profiad Cynradd gyda SAC

Bydd eich amser yn y Brifysgol yn cynnwys tri modiwl gwerth 60 credyd yr un, gan ymdrin â themâu allweddol gan gynnwys addysgu, y cwricwlwm ac asesu mewn ysgolion cynradd; bod yn ymarferwr adfyfyriol sy'n seilio ei ymarfer ar ymchwil, a'ch profiad proffesiynol a'ch lleoliadau gwaith.

Tra byddwch ar leoliad gwaith, cewch eich cefnogi'n helaeth drwy fframwaith cadarn sy'n integreiddio cymorth proffesiynol, academaidd a bugeiliol. Byddwch yn cael eich paru â mentor proffesiynol, a all gynnig arweiniad ac adborth adeiladol i gefnogi eich datblygiad.  Bydd gan staff y Brifysgol ran weithgar drwy gydol eich lleoliadau gwaith, gan gynnig arweiniad a chynnal arsylwadau ffurfiol, sy'n cael eu cynllunio'n ofalus i asesu eich cynnydd a chefnogi datblygiad eich ymarfer addysgu.

Yn ystod eich lleoliadau gwaith, bydd eich lles yn flaenoriaeth a chewch eich cefnogi drwy gyfarfodydd wythnosol gyda'ch mentor, clinigau lles, cyfarfodydd gyda'ch tiwtor personol, sgyrsiau dysgu ac ymweliadau arsylwi. Pan fo angen, caiff cynlluniau cymorth ac ymyrraeth eu llunio ar y cyd â myfyrwyr a phartneriaid ysgol er mwyn bodloni anghenion unigol a chefnogi cynnydd.

Ar ddyddiau Mawrth penodol, caiff diwrnodau Ymarfer a Theori eu hymgorffori yn y rhaglen, gan roi amser i chi archwilio sut mae damcaniaeth addysgol yn cysylltu ag ymarfer yn yr ystafell ddosbarth. Cynhelir y sesiynau hyn yn Ysgol Arweiniol Rhwydwaith pob myfyriwr ac maen nhw'n cael eu hwyluso gan Diwtor Arweiniol Rhwydwaith y Brifysgol a chydweithwyr yn yr ysgol, gan eich galluogi i rannu profiadau, trafod heriau a myfyrio ar eich cynnydd.

Un o nodweddion allweddol y broses gymorth yw’r Pasbort Dysgu Proffesiynol; platfform ar-lein sy'n cofnodi eich taith ddysgu. Byddwch hefyd yn cofnodi cynlluniau gwersi a myfyrdodau, ac yn cael adborth gan eich mentoriaid, sy'n cynnwys arsylwadau ffurfiol, cyfarfodydd â mentor a sgyrsiau proffesiynol strwythuredig.

Byddwch yn cael 35 awr o ddarpariaeth iaith Gymraeg yn ystod y cwrs i ddatblygu eich sgiliau iaith Gymraeg. Ar gyfer myfyrwyr Cymraeg eu hiaith, bydd llwybr cyfrwng Cymraeg, sy'n cynnwys lleoliadau, seminarau a diwrnodau Ymarfer a Theori Cymraeg, yn ogystal â'r opsiwn i gyflwyno aseiniadau a chael adborth gan diwtor yn y Brifysgol sy'n siarad Cymraeg.

Mae'r rhaglen hon hefyd yn galluogi ymrwymiad cryf i addysg gynhwysol drwy ffocws cynhwysfawr ar Anghenion Dysgu Ychwanegol, sy'n cyd-fynd â’r Côd ADY newydd i Gymru.  Byddwch yn cael eich cefnogi i fod yn weithiwr proffesiynol ymatebol, sy'n gallu addasu eich gwaith addysgu i ddiwallu anghenion amrywiol yr holl ddysgwyr.

Cyfleoedd Cyflogaeth Cynradd gyda SAC

Bydd cwblhau'r cwrs TAR hwn yn llwyddiannus yn arwain at gyflwyno argymhelliad i Gyngor y Gweithlu Addysg i chi gael Statws Athro Cymwysedig (SAC). Mae hwn yn gyfle i gael cyflogaeth fel Athro Newydd Gymhwyso mewn ysgolion.

Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn ymgysylltu ag amrywiaeth o gyrff allanol megis:

  • Undebau
  • Arweinwyr Ysgol
  • Cyngor y Gweithlu Addysg
  • Arweinwyr Addysg Gychwynnol i Athrawon
  • Partneriaeth - corff addysgol ar y cyd sy'n cefnogi ysgolion yn Sir Gâr, Sir Benfro ac Abertawe
  • Cyd-bwyllgor Addysg Cymru

Mae'r ymgysylltiad hwn yn cynnig ystod eang o gyfleoedd i fyfyrwyr. Mae'r rhain yn cynnwys sesiynau dynodedig sy'n canolbwyntio ar y broses cyflwyno cais am swydd gan arweinwyr ysgol, ac yna cynhelir sesiynau mewn ysgolion sy'n canolbwyntio ar ddull cyfweliad, llythyrau cyflwyno cais a gwersi cyfweliad, gan gynnwys cynnal ffug gyfweliadau. Gall ymgysylltu â sefydliadau proffesiynol megis CBAC (y bwrdd arholi ar gyfer cymwysterau ysgol yng Nghymru) fod drwy sesiynau megis gweithdai rhanbarthol, sy’n galluogi myfyrwyr i gymryd rhan yn eu cymuned broffesiynol a gwneud cysylltiadau gwerthfawr.

Hefyd, byddwch yn cael cyfleoedd i ddatblygu ac ymestyn eich sgiliau cyflogadwyedd drwy nifer o gyfleoedd pellach. Mae'r rhain yn cynnwys cyflwyno ymchwil i bartneriaid ysgol, cydweithwyr yn y Brifysgol ac eraill yn y digwyddiad ymchwil blynyddol; datblygu a rheoli gweithdai ar gyfer myfyrwyr, a chefnogi neu gyd-arwain teithiau ysgol, clybiau a dysgu yn yr awyr agored.

Mae'r rhan fwyaf o athrawon dan hyfforddiant ar y TAR Cynradd yn mynd ymlaen i gael swyddi mewn ysgolion cynradd ledled Cymru, yn aml gyda'n hysgolion partner, gan gynnwys mewn ysgolion arbennig a chyfleusterau addysgu arbenigol. Mae rhai o'r rhain yn swyddi parhaol ac mae rhai ar gael ar sail cytundeb cyflenwi.

Mae nifer o raddedigion hefyd yn parhau â'u taith academaidd drwy'r  MA Genedlaethol (Cymru) neu drwy ddilyn astudiaethau ôl-raddedig yn Abertawe, gan gynnwys rhaglenni meistr a doethurol. 

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Cynradd gyda SAC, PGCert