Trosolwg o'r Cwrs
Mae’r rhaglen Genedlaethol MA mewn Addysg (Cymru): Cwricwlwm yn rhaglen wirioneddol drawsnewidiol ac arloesol ar gyfer gweithwyr addysgol proffesiynol yng Nghymru, o athrawon ar ddechrau gyrfa i uwch arweinwyr sydd â diddordeb yn y Cwricwlwm. Mae’r tirlun addysgol yng Nghymru yn newid yn gyflym. Mae addysgu nid yn unig yn gofyn am feistrolaeth ar set gymhleth o sgiliau i arwain, ysgogi, a hwyluso dysgu myfyrwyr, ond hefyd y gallu i ymholi ynghylch ymarfer proffesiynol er mwyn ei wella. Bydd y rhaglen Genedlaethol MA mewn Addysg (Cymru): Cwricwlwm, sydd wedi’i datblygu ar y cyd gan saith prifysgol yng Nghymru, trwy ymgysylltu’n uniongyrchol ag amrywiaeth o randdeiliaid allweddol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, yn sicrhau bod yr holl weithwyr addysg proffesiynol yng Nghymru yn cael yr un cyfle o ansawdd uchel i ymestyn eu gwybodaeth broffesiynol, ymgymryd ag ymchwil, a gwella’u hymarfer proffesiynol. Anogir darpar-fyfyrwyr i gysylltu â Mr Ross Evans.
Edrychwch ar ein Cwestiynau Cyffredin ar Dderbyn i gael manylion am sut i wneud cais ar gyfer y rhaglen MA mewn Addysg (Cymru).