Trosolwg o'r Cwrs
Bydd y TAR Uwchradd gyda Statws Athro Cymwysedig ym Mhrifysgol Abertawe'n eich paratoi i fodloni'r Safonau Dysgu ac Arweinyddiaeth Proffesiynol newydd i Gymru (ar lefel sy'n briodol ar gyfer Athrawon Newydd Gymhwyso), gan eich galluogi i fod yn athro llawn ysbrydoliaeth, cymwys a phroffesiynol mewn Addysg Uwchradd.
Byddwch yn creu portffolio electronig o dystiolaeth, a elwir yn Basport Dysgu Proffesiynol, a fydd yn nodi eich cynnydd a'ch gallu yn erbyn pob un o'r Safonau Dysgu ac Arweinyddiaeth Proffesiynol. Bydd cyflwyno tystiolaeth lwyddiannus o fodloni'r holl Safonau, ynghyd â chwblhau asesiadau Lefel 7, yn arwain at gyflwyno argymhelliad i Gyngor y Gweithlu Addysg eich bod chi'n cael Statws Athro Cymwysedig.
Yn unol â gofynion y Llywodraeth, caiff y rhaglen ei datblygu a'i chyflwyno drwy gorff ysgolion-prifysgol ar y cyd; Partneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe (PYPA). Mae'r Bartneriaeth hon yn rhannu rolau wrth ddatblygu, adolygu a chyflwyno ein rhaglen, gan gynnwys ei helfennau yn y brifysgol ac ar leoliad mewn ysgolion. Bydd staff ysgolion a'r Brifysgol yn cydweithio i'ch cefnogi chi, fel athro dan hyfforddiant, i symud ymlaen i gwblhau'r cwrs yn llwyddiannus a chyflawni Statws Athro Cymwysedig.
Mae galw mawr am athrawon dylunio a thechnoleg cymwysedig ar draws y DU. I gydnabod hyn, mae PYPA wedi datblygu'r rhaglen TAR Dylunio a Thechnoleg Uwchradd arloesol hon i roi hyder i chi, yn eich maes pwnc a'ch dealltwriaeth o sut i'w addysgu. Daw elfen bwnc-benodol y rhaglen o'r modiwl 'Ymarfer Myfyriol sy’n seiliedig ar Ymchwil' sydd yn seiliedig ar y pwnc o'ch dewis.
Caiff y rhaglen ei hategu gan ymchwil ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol. Byddwch yn dysgu sut i addysgu dylunio a thechnoleg mewn ffordd ystyrlon, ddiddorol a llawn hwyl, a hefyd sut i ddadansoddi eich datblygiad chi a datblygiad eich disgyblion.