Gall myfyrwyr sy'n astudio Tystysgrif Addysg Ôl-raddedig mewn Addysg (TAR) yn llawn amser neu'n rhan-amser gael arian i helpu gyda chostau'r cwrs, ar yr amod bod yr holl feini prawf cymhwysedd yn cael eu bodloni.

Cymhellion Addysg Gychwynnol i Athrawon

Mae gennym y cymhellion cyllid canlynol ar gael ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon. Os oes gennych ddiddordeb mewn cyflwyno cais ar gyfer un o'r rhain, cysylltwch a'n tîm Ariannu TAR, a fydd yn cadarnhau eich cymhwysedd ac yn eich helpu gyda’r broses cyflwyno cais.

Sylwer - gallwch gyflwyno cais am un neu fwy o gymhellion os ydych chi'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd.

Athro yn siarad â dosbarth o fyfyrwyr

Mae'r Cymhelliant Pwnc Blaenoriaeth Addysg Gychwynnol i Athrawon ar gael i fyfyrwyr TAR Uwchradd sydd â gradd 2.2 neu’n uwch sy'n astudio cwrs TAR mewn Bioleg, Cemeg, Dylunio a Thechnoleg, Technoleg Gwybodaeth, Mathemateg, Ieithoedd Tramor Modern, Ffiseg a Chymraeg.

Cyllid ar gael: Telir cyfanswm o £20000 i fyfyrwyr cymwys mewn tri rhandaliad (Llawn amser) / pedwar rhandaliad (Rhan-amser).

Mae ceisiadau ar agor o 1 Medi - 31 Hydref 2026. I gyflwyno cais, cysylltwch â'n Tîm Ariannu TAR.

Darllenwch yr arweiniad llawn
Athro yn siarad â disgybl

Mae Cymhelliant Addysg Gychwynnol i Athrawon ar gyfer Rhai o Gymunedau Ethnig Leiafrifol Llywodraeth Cymru yn grant sydd ar gael i fyfyrwyr Du, Asiaidd, ac Ethnig Leiafrifol sy’n astudio rhaglen addysg gychwynnol i athrawon ôl-raddedig achrededig sy’n arwain at Statws Athro Cymwysedig.

Cyllid ar gael: Telir cyfanswm o £5000 i fyfyrwyr cymwys mewn tri rhandaliad (Llawn amser) / pedwar rhandaliad (Rhan-amser).

Mae ceisiadau ar agor o 1 Medi - 31 Hydref 2026. I gyflwyno cais, cysylltwch â'n Tîm Ariannu TAR.

Darllenwch yr arweiniad llawn
Athro yn esbonio rhywbeth i fyfyriwr

Mae Cynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory Llywodraeth Cymru'n gymhelliant a delir i unigolion cymwys sy'n cwblhau rhaglen Addysg Gychwynnol i Athrawon ôl-raddedig uwchradd achrededig yng Nghymru sy'n eu galluogi i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg neu addysgu'r Gymraeg fel pwnc.

Cyllid sydd ar gael: telir cyfanswm o £5000 i fyfyrwyr cymwys mewn dau randaliad.

Mae ceisiadau ar agor o 1 Medi - 31 Hydref 2026. I gyflwyno cais, cysylltwch â'n Tîm Ariannu TAR.

Darllenwch yr arweiniad llawn

Cyfleoedd ariannu eraill

Mae cyrsiau TAR yn cael yr un cyllid â chyrsiau gradd israddedig. Os ydych chi'n gymwys, gallwch gyflwyno cais ar gyfer cymorth gyda ffioedd dysgu a chostau byw.

Nid yw myfyrwyr rhyngwladol yn gymwys ar gyfer cyllid myfyrwyr statudol, ond efallai bydd modd iddynt gael cymorth ariannol drwy'r Brifysgol.

Am ragor o fanylion, dewiswch un o'r tudalennau gwybodaeth isod: