
Blwyddyn 1
Os ydych yn fyfyriwr sy’n byw yng Nghymru, ac ym mlwyddyn gyntaf y cwrs Meddygaeth i Raddedigion, bydd rhaid i chi ariannu cyfran o’r ffioedd (£3,465) eich hun. Mae Benthyciad Ffioedd Dysgu ar gael gan Gyllid Myfyrwyr Cymru am y £5,535 sy’n weddill.
Rydych hefyd yn gymwys i wneud cais am Fenthyciad Cynhaliaeth gan Gyllid Myfyrwyr Cymru sydd wedi’i asesu ar incwm llawn.
NI FYDDWCH yn gymwys i dderbyn unrhyw Grantiau Cynhaliaeth neu unrhyw ariannu drwy Fwrsariaethau’r GIG.
Mae’n bosib y byddwch yn gymwys am Grantiau Atodol megis Lwfans Dysgu i Rieni, Grant Oedolion Dibynnol, a Grant Gofal Plant a bydd angen i chi wneud cais am y rhain gyda’ch benthyciad myfyriwr. Eto, dylech gyflwyno cais i Gyllid Myfyrwyr Cymru.
Bydd angen felly i chi dalu £3465 yn y flwyddyn 1af felly ystyriwch yn ofalus sut y byddwch yn ariannu hyn.
Mae’n bosib y bydd trefniadau ariannu ar gyfer y myfyrwyr hynny a enillodd eu gradd flaenorol y tu allan i’r DU yn wahanol. Cysylltwch â’r Swyddfa Cyngor a Chymorth Ariannol am ragor o wybodaeth.
Blynyddoedd 2, 3 a 4
Telir £3,465 o’r £9,000 o’r ffioedd dysgu drwy Gynllun Bwrsariaeth y GIG. Bydd myfyrwyr eto’n gymwys i wneud cais am fenthyciad ffioedd dysgu i ariannu’r £5,535 sy’n weddill mewn ffioedd dysgu nad ydyw wedi’i dalu gan Fwrsariaeth y GIG.
Gall myfyrwyr hefyd gael mynediad i Fenthyciad Cynhaliaeth nad ydyw’n seiliedig ar brawf moddion ar gyfradd is o £4675 gan eu Darparwr Cyllid.
Mae Ariannu GIG hefyd ar gael ar ffurf bwrsariaeth GIG yn seiliedig ar brawf moddion (wedi’i seilio ar incwm eich cartref) a grant GIG nad ydyw’n seiliedig ar brawf moddion gwerth £1,000.
Os ydych yn gymwys am grantiau atodol (Lwfans Dysgi i Rieni, Grant Oedolion Dibynnol neu Grant Gofal Plant) bydd y rhain ar gael drwy’r GIG ac nid trwy Gyllid Myfyrwyr Cymru (fel yr oeddent Flwyddyn Gyntaf).
Am wybodaeth gyfredol a chael gwybod beth yw’r symiau y mae gennych hawl i’w cael, yn ychwanegol at y broses ymgeisio ar-lein byddem yn argymell eich bod yn ymweld â gwefan Bwrsarïau Myfyrwyr y GIG.