Rydw i'n byw yn Yr Alban

Benthyciadau a Grantiau

Rydym yn dal i aros i'r union ffigurau ar gyfer 2024/25 gael eu cyhoeddi, ond nid ydym yn disgwyl unrhyw newidiadau sylweddol i'r ffigurau a nodir isod ar gyfer 2024/25. 

Benthyciad Ffioedd Dysgu

Gall myfyrwyr sy’n byw yn yr Alban ac sy’n dechrau eu hastudiaethau ym mlwyddyn academaidd 2024/25 wneud cais am Fenthyciad Ffioedd Dysgu i dalu cost lawn eu ffioedd dysgu (yn amodol ar delerau ac amodau). Gallant wneud hyn drwy wneud cais i Student Award Agency for Scotland (SAAS).

Cyllid  Swm pob blwyddyn academaidd
Cost Ffioedd Dysgu £9000
Benthyciad Ffioedd Dysgu (Uchafswm) £9000

Caiff taliadau Benthyciad Ffioedd Dysgu eu talu’n uniongyrchol i’r Brifysgol yn dilyn cadarnhad o’ch presenoldeb bob tymor, felly nid oes angen unrhyw daliadau o flaen llaw.

Benthyciadau a Bwrsariaethau Cynhaliaeth

Mae ariannu tuag at gostau byw myfyrwyr yn cynnwys benthyciadau a bwrsariaethau cynhaliaeth.  Bydd y swm y mae gennych hawl i'w dderbyn yn dibynnu ar ble rydych yn byw ac incwm eich cartref fel y dangosir yn y tabl isod. Bydd graddfa'r benthyciad myfyriwr y byddwch yn ei derbyn yr un peth boed eich bod yn byw gartref neu oddi cartref.

Bwrsariaethau Myfyrwyr Ifainc (YSB)

Caiff uchafswm bwrsariaeth o £1,875 ei thalu os yw incwm eich aelwyd yn £18,999 y flwyddyn neu'n llai. Os yw incwm eich aelwyd dros £34,000 y flwyddyn yna ni fyddwch yn gymwys i dderbyn YSB a bydd eich cymorth costau byw cyfan drwy fenthyciad myfyriwr.

Incwm y CartrefBwrsariaethBenthyciadCYFANSWM
Hyd at £20,999 £2000 £9400 £11400
£21,000 i £23,999 £1125 £9400 £10525
£24,000 i £33,999 £500 £9400 £9900
£34,000 ac uwch £0 £8400 £8400

Bwrsariaeth Myfyrwyr Annibynnol (ISB)

Yr uchafswm a fydd ar gael fydd £875 os yw incwm eich cartref yn £18,999 y flwyddyn neu'n llai neu os ydych chi'n sengl. Os yw incwm eich cartref dros £19,000 y flwyddyn ni fyddwch yn gymwys i dderbyn ISB a bydd eich cymorth costau byw cyfan drwy fenthyciad myfyriwr.

Incwm y CartrefBwrsariaethBenthyciadCYFANSWM
Hyd at £20,999 £1000 £10400 £11400
£21,000 i £23,999 £0 £10400 £10400
£24,000 i £33,999 £0 £9900 £9900
£34,000 ac uwch £0 £8400 £8400

Telir taliadau cynhaliaeth yn uniongyrchol i chi mewn 3 rhandaliad. Telir eich rhandaliad cyntaf i chi ar ôl i chi ymrestru a chasglu eich cerdyn adnabod (telir y ddwy ran sy’n weddill ar ddiwrnod cyntaf tymor y Gwanwyn a thymor yr Haf).

Grantiau Atodol

Gallai myfyrwyr sydd â phlant dibynnol, oedolion dibynnol, anabledd, neu sy’n gadael gofal, fod yn gymwys i dderbyn cymorth ychwanegol. 

Gall myfyrwyr sy'n weddw, wedi ysgaru, wedi gwahanu neu sengl ag o leiaf un plentyn dibynnol fod yn gymwys i dderbyn Grant Rhieni Sengl o £1,305 gan SAAS.

Gallwch hawlio'r grant a asesir ar incwm ar gyfer eich gŵr, eich gwraig, eich partner sifil neu'ch partner.

Ni allwch hawlio'r grant hwn ar ran myfyriwr arall. Os yw'ch gŵr, gwraig, partner sifil neu'ch partner yn ennill unrhyw incwm, gallai hyn effeithio ar eich gallu i hawlio. Bydd SAAS yn talu hyd at £2,640 i dalu am y 52 wythnos gyflawn o ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd eich cwrs.

Os oeddech chi mewn gofal, gallwn dalu grant Gwyliau ar gyfer y rheiny sy’n gadael gofal o hyd at £105 yr wythnos i helpu i dalu am gostau llety yn ystod gwyliau hir (yr Haf).

Os oes gennych unrhyw amgylchiadau ychwanegol pellach, efallai y bydd cymorth ac ariannu ychwanegol ar gael. Am wybodaeth bellach ewch i'n tudalen we Myfyriwr+

Cofiwch - Mae Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau ar gael. Cânt eu darparu gan Brifysgol Abertawe i hyrwyddo rhagoriaeth ac i ehangu cyfranogiad.

Ewch i'n tudalen benodol os bydd angen gwybodaeth bellach arnoch am Sharia Compliant Finance