Rydw i'n byw yn Ngogledd Iwerddon

Benthyciadau a Grantiau

Gogledd Iwerddon

Benthyciad Ffioedd Dysgu

Gall myfyrwyr sy’n byw yng Ngogledd Iwerddon ac sy’n dechrau eu hastudiaethau ym mlwyddyn academaidd 2021/22 wneud cais am Fenthyciad Ffioedd Dysgu i dalu cost lawn eu ffioedd dysgu (yn amodol ar delerau ac amodau). Gallant wneud hyn drwy wneud cais i Student Finance NI.

CyllidSwm pob blwyddyn academaidd
Cost Ffioedd Dysgu £9000
Benthyciad Ffioedd Dysgu (Uchafswm) £9250

Caiff taliadau Benthyciad Ffioedd Dysgu eu talu’n uniongyrchol i’r Brifysgol yn dilyn cadarnhad o’ch presenoldeb bob tymor, felly nid oes angen unrhyw daliadau o flaen llaw.

Benthyciad a Grantiau Cynhaliaeth

Mae ariannu tuag at gostau byw myfyrwyr yn cynnwys benthyciadau a grantiau cynhaliaeth. Bydd y swm yr ydych yn gymwys i’w dderbyn yn dibynnu ar ble yr ydych yn byw ac incwm eich cartref, fel sydd wedi’i ddangos yn y tabl isod.

Incwm y CartrefGrant CynhaliaethBenthyciad Cynhaliaeth – Byw oddi cartrefBenthyciad Cynhaliaeth – Byw yng nghartref eich rhieni
£19203 £3475 £2953 £1863
£25000 £2201 £3289 £2199
£30000 £1215 £3625 £2535
£35000 £689 £4151 £3061
£41540 £0 £4840 £3750
£45000 £0 £4476 £3386
£53035+ £0 £3630 £2812

Telir taliadau cynhaliaeth yn uniongyrchol i chi mewn 3 rhandaliad. Telir eich rhan gyntaf i chi ar ôl i chi ymrestru a chasglu eich cerdyn adnabod (telir y ddwy ran sy’n weddill ar ddiwrnod cyntaf tymor y Gwanwyn a thymor yr Haf).

Grantiau Atodol

Gallai myfyrwyr sydd â phlant dibynnol, costau gofal plant, oedolion dibynnol, anabledd, neu sy’n gadael gofal fod yn gymwys i dderbyn cymorth ychwanegol. 

GrantYr uchafswm sydd ar gaelA yw'n destun prawf moddion?Ffurflen Gais
Lwfans Dysgu i Rieni (PLA) £1538 Yes PN1

Grant Oedolion Dibynnol (ADG)
£2695 Yes PN1
Grant Gofal Plant (CCG)

85% o’r gost i hyd at uchafswm o:

1 Plentyn - £148.75 yr wythnos

2+ Plentyn - £255.00 yr wythnos

Yes CCG1

Os oes gennych amgylchiadau ychwanegol pellach, efallai y bydd cymorth ac ariannu ychwanegol ar gael. Am wybodaeth bellach ewch i'n tudalen we Myfyriwr+

Cofiwch - Mae Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau ar gael. Cânt eu darparu gan Brifysgol Abertawe i hyrwyddo rhagoriaeth ac i ehangu cyfranogiad.

Ewch i'n tudalen we benodol os oes angen gwybodaeth bellach am Cyfraith Sharia