Cyllid TAR
Gall myfyrwyr sy'n astudio Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) amser llawn neu ran-amser gael cyllid i helpu gyda chostau'r cwrs, ar yr amod bod yr holl feini prawf cymhwysedd Cyllid Myfyrwyr yn cael eu bodloni.
Mae cyrsiau Tystysgrif Addysg i Ôl-raddedigion (TAR) yn derbyn yr un arian â chwrs gradd israddedig. Mae hyn yn golygu, os ydych chi'n gymwys, y byddwch chi'n gallu gwneud cais am gymorth ffioedd dysgu a chostau byw.
Am ragor o wybodaeth, dewiswch un o'r tudalennau gwybodaeth ganlynol:
*Nid oes hawl gan Fyfyrwyr Rhyngwladol dderbyn ariannu myfyrwyr statudol ond gallent fod yn gymwys i gyflwyno cais am ariannu gan y Brifysgol. Cynghorir myfyrwyr rhyngwladol i gysylltu â Swyddfa Datblygu Rhyngwladol y Brifysgol sy’n gweinyddu ysgoloriaethau ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol: ido@abertawe.ac.uk ac i edrych ar dudalennau gwe y Brifysgol i weld yr ystod lawn o ysgoloriaethau sydd ar gael.
Gall Myfyrwyr yr UE a Rhyngwladol wneud cais i astudio TAR ond ni all y Brifysgol warantu y bydd y cymhwyster TAR yn eich galluogi i ddysgu yn eich gwlad gartref. Chi sy’n gyfrifol am wirio’r rheoliadau ar gyfer eich awdurdod addysg cartref.
Cymhellion 2022/23
Bydd cynllun cymhelliant pwnc blaenoriaeth newydd yn cael ei lansio ar gyfer blwyddyn academaidd 2022 i 2023. Bydd y cynllun hwn yn parhau i gymell yr athrawon hynny sydd eu hangen fwyaf yn ysgolion Cymru. Bydd gan bob myfyriwr TAR Uwchradd sy'n astudio TAR Bioleg, Cemeg, Dylunio a Thechnoleg, Technoleg Gwybodaeth, Mathemateg, Ieithoedd Tramor Modern (ITM), Ffiseg a Chymraeg, gyda dosbarthiad gradd blaenorol o 2.2 neu uwch, hawl i dderbyn cymhelliant o £15,000. Gwneir y cymelldaliadau o gyfanswm o £15,000 mewn tri rhandaliad ar yr adegau canlynol yn ystod rhaglen AGA a dechrau gyrfa myfyriwr:
1) £3,000 ym mis Ionawr ar ôl cwblhau tymor cyntaf ei gwrs TAR
2) £6,000 ym mis Gorffennaf/Awst ar ôl cwblhau ei gwrs TAR yn llwyddiannus ac ar ôl dyfarnu SAC iddo
3) £6,000 ar ôl cwblhau’r broses sefydlu yn llwyddiannus yng Nghymru.
Cewch ragor o wybodaeth am gymhelliad hyfforddiant athrawon Llywodraeth Cymru yma.
Mae Cynllun Cymhelliant Llywodraeth Cymru, Iaith Athrawon Yfory, ar gael i fyfyrwyr cymwys sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Cewch ragor o wybodaeth yma.
Sylwer mai dim ond llwybr TAR Gynradd ac Uwchradd amser llawn y mae Prifysgol Abertawe yn ei gynnig. Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalennau'r cwrs TAR.