Benthyciadau a Grantiau

Benthyciad Ffioedd Dysgu

Gall myfyrwyr sy’n byw yn Lloegr ac sy’n dechrau eu hastudiaethau ym mlwyddyn academaidd 2023/24 wneud cais am Fenthyciad Ffioedd Dysgu i dalu cost lawn eu ffioedd dysgu (yn amodol ar delerau ac amodau).  Gallant wneud hyn drwy wneud cais i Student Finance England (SFE).

 

Caiff taliadau Benthyciad Ffioedd Dysgu eu talu’n uniongyrchol i’r Brifysgol yn dilyn cadarnhad o’ch presenoldeb bob tymor, felly nid oes angen unrhyw daliadau o flaen llaw.

Benthyciad Cynhaliaeth

O fis Medi 2016 ymlaen, ni fydd Grantiau Cynhaliaeth ar gael mwyach i fyfyrwyr newydd sy'n byw yn Lloegr; yn lle hyn, cynyddir lefelau'r Benthyciad Cynhaliaeth fel y disgrifir isod.  Bydd y swm y mae gennych hawl i’w dderbyn yn dibynnu ar ble rydych yn byw ac incwm eich aelwyd, fel y dangosir yn y tabl isod.  Am amcangyfrif manylach defnyddiwch gyfrifydd cyllid myfyrwyr SFE.

Hawl i Fenthyciad Cynhaliaeth

Incwm Cartref

Benthyciad Cynhaliaeth - Byw yng nghartref eich rhieni

Benthyciad Cynhaliaeth – Byw oddi cartref

£25,000

£8,610

£10,227

£30,000

£7,887

£9,497

£35,000

£7,163

£8,766

£40,000

£6,440

£8,035

£42,875

£6,024

£7,614

£45,000

£5,716

£7,304

£50,000

£4,993

£6,573

£55,000

£4,269

£5,842

£60,000

£3,790

£5,111

£65,000

£3,790

£4,767

Telir taliadau cynhaliaeth yn uniongyrchol i chi mewn 3 rhandaliad. Telir eich rhandaliad cyntaf i chi ar ôl i chi ymrestru a chasglu eich cerdyn adnabod (telir y ddau randaliad sy’n weddill ar ddiwrnod cyntaf tymor a Gwanwyn a thymor yr Haf).

Benthyciad Cynhaliaeth (Y rheini sy'n gymwys i dderbyn buddion)

Yn y gorffennol byddai myfyrwyr sy'n gymwys i dderbyn buddion hefyd wedi bod yn gymwys i dderbyn grant cymorth arbennig, fodd bynnag, am nad yw hyn ar gael bellach cynigir benthyciad cynhaliaeth uwch yn ei le.  Bydd myfyrwyr sy'n gymwys i dderbyn budd-daliadau yn parhau i dderbyn mwy o gymorth cynhaliaeth na myfyrwyr eraill fel y nodir isod. 

 

Hawl i Fenthyciad Cynhaliaeth - Y rheiny sy'n gymwys i dderbyn budd-daliadau

Incwm Cartref

Benthyciad Cynhaliaeth - Byw yng nghartref eich rhieni

Benthyciad Cynhaliaeth – Byw oddi cartref

£25,000

£10,158

£11,658

£30,000

£9,002

£10,527

£35,000

£7,845

£9,396

£40,000

£6,689

£8,265

£42,875

£6,024

£7,614

£45,000

£5,717

£7,304

£50,000

£4,993

£6,573

£55,000

£4,270

£5,842

£60,000

£3,790

£5,111

£65,00

£3,790

£4,767

Telir taliadau cynhaliaeth i chi yn uniongyrchol mewn 3 rhandaliad. Telir eich rhandaliad cyntaf i chi ar ôl i chi ymrestru a chasglu eich cerdyn adnabod (telir y ddau randaliad sy’n weddill ar ddiwrnod cyntaf tymor a Gwanwyn a thymor yr Haf).

Grantiau Atodol

Gall myfyrwyr sydd â phlant dibynnol, costau gofal plant, oedolion dibynnol, anabledd, neu sy’n gadael gofal fod yn gymwys i dderbyn cymorth ychwanegol.

Grantiau Atodol

Grant

Uchafswm sydd ar gael

A yw'n seiliedig ar brawf modd?

Ffurflen Gais

Lwfans Dysgu i Rieni (PLA)

£1,963

Ydy

PN1

Grant Oedolion Dibynnol (ADG)

£3,438

Ydy

PN1

Grant Gofal Plant (CCG)

85% o’r gost i hyd at uchafswm o:

1 Child - £193.62/yr wythnos

2+ plentyn - £331.95/yr wythnos

Ydy

CCG1

Os oes gennych unrhyw amgylchiadau ychwanegol, mae’n bosib bod cymorth ac ariannu ychwanegol ar gael. I dderbyn gwybodaeth bellach, ewch i'n tudalen we myfyriwr+

Cofiwch - Mae Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau ar gael. Fe'u darperir gan Brifysgol Abertawe i hyrwyddo rhagoriaeth ac i ehangu cyfranogiad.

Ewch i'n tudalen we ymroddedig os bydd angen gwybodaeth bellach arnoch am Sharia Compliant Finance.