Ariannu ar gyfer Gwaith Cymdeithasol i Fyfyrwyr Israddedig

Dylai myfyrwyr Gwaith Cymdeithasol wneud cais am eu cyllid cyn gynted â phosib ar ôl gwneud cais am gwrs.

Gall myfyrwyr sy’n byw yng Nghymru wneud cais am y canlynol:

  • Grant Ffioedd Dysgu
  • Benthyciad Ffioedd Dysgu
  • Grant Dysgu’r Cynulliad
  • Benthyciad Cynhaliaeth
  • Bwrsariaeth Gwaith Cymdeithasol (ni fyddwch yn gymwys am hyn os ydych yn derbyn cymhelliant ariannol i hyfforddi gan eich cyflogwr)
  • Lwfans Cyfle Dysgu Ymarfer (PLOA)
  • Mae’n bosib bod grantiau ychwanegol eraill ar gael yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

I wneud cais am y Fwrsariaeth Gwaith Cymdeithasol a’r Lwfans Cyfle Dysgu Ymarfer, mae’n rhaid i chi wneud cais i Gyngor Gofal Cymru.

Nifer cyfyngedig o Fwrsariaethau Gwaith Cymdeithasol sydd ar gael; felly rydym yn eich cynghori i wneud cais cyn gynted â phosib.

I wneud cais am gymorth gyda ffioedd dysgu a’r benthyciad cynhaliaeth, bydd angen i chi wneud cais drwy wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Dylai Myfyrwyr sy’n byw yn Lloegr gysylltu â Chyllid Myfyrwyr Lloegr a’r GIG. 

Mae myfyrwyr sydd eisoes â gradd ac sydd am astudio’r cwrs Gwaith Cymdeithasol yn gymwys i wneud cais am y Benthyciad Cynhaliaeth, Grantiau Atodol, y Fwrsariaeth Gwaith Cymdeithasol a’r Lwfans Cyfle Dysgu Ymarfer. Ni fydd myfyrwyr ar eu hail radd yn gallu derbyn Grant Cynhaliaeth a bydd angen iddynt dalu’r £9000 o ffioedd dysgu eu hunain.

I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth penodol sydd ar gael i fyfyrwyr ag anghenion ychwanegol, ewch i'n tudalen we Myfyriwr+