Benthyciadau a Grantiau
Benthyciad Ffioedd Dysgu
Gall myfyrwyr sy’n byw yn Lloegr ac sy’n dechrau eu hastudiaethau ym mlwyddyn academaidd 2021/22 wneud cais am Fenthyciad Ffioedd Dysgu i dalu cost lawn eu ffioedd dysgu (yn amodol ar delerau ac amodau). Gallant wneud hyn drwy wneud cais i Student Finance England (SFE).
Caiff taliadau Benthyciad Ffioedd Dysgu eu talu’n uniongyrchol i’r Brifysgol yn dilyn cadarnhad o’ch presenoldeb bob tymor, felly nid oes angen unrhyw daliadau o flaen llaw.
Benthyciad Cynhaliaeth
O fis Medi 2016 ymlaen, ni fydd Grantiau Cynhaliaeth ar gael mwyach i fyfyrwyr newydd sy'n byw yn Lloegr; yn lle hyn, cynyddir lefelau'r Benthyciad Cynhaliaeth fel y disgrifir isod. Bydd y swm y mae gennych hawl i’w dderbyn yn dibynnu ar ble rydych yn byw ac incwm eich aelwyd, fel y dangosir yn y tabl isod. Am amcangyfrif manylach defnyddiwch gyfrifydd cyllid myfyrwyr SFE.
Hawl i Fenthyciad Cynhaliaeth |
||
Incwm Cartref |
Benthyciad Cynhaliaeth - Byw yng nghartref eich rhieni |
Benthyciad Cynhaliaeth – Byw oddi cartref |
£25,000 |
£7987 |
£9488 |
£30,000 |
£7315 |
£8809 |
£35,000 |
£6642 |
£8130 |
£40,000 |
£5969 |
£7450 |
£42,875 |
£5582 |
£7060 |
£45,000 |
£5296 |
£6771 |
£50,000 |
£4623 |
£6092 |
£55,000 |
£3950 |
£5412 |
£60,000 |
£3516 |
£4733 |
£65,000 |
£3516 |
£4422 |
Telir taliadau cynhaliaeth yn uniongyrchol i chi mewn 3 rhandaliad. Telir eich rhandaliad cyntaf i chi ar ôl i chi ymrestru a chasglu eich cerdyn adnabod (telir y ddau randaliad sy’n weddill ar ddiwrnod cyntaf tymor a Gwanwyn a thymor yr Haf).
Benthyciad Cynhaliaeth (Y rheini sy'n gymwys i dderbyn buddion)
Yn y gorffennol byddai myfyrwyr sy'n gymwys i dderbyn buddion hefyd wedi bod yn gymwys i dderbyn grant cymorth arbennig, fodd bynnag, am nad yw hyn ar gael bellach cynigir benthyciad cynhaliaeth uwch yn ei le. Bydd myfyrwyr sy'n gymwys i dderbyn budd-daliadau yn parhau i dderbyn mwy o gymorth cynhaliaeth na myfyrwyr eraill fel y nodir isod.
Hawl i Fenthyciad Cynhaliaeth - Y rheiny sy'n gymwys i dderbyn budd-daliadau |
||
Incwm Cartref |
Benthyciad Cynhaliaeth - Byw yng nghartref eich rhieni |
Benthyciad Cynhaliaeth – Byw oddi cartref |
£25,000 |
£9423 |
£10,815 |
£30,000 |
£8349 |
£9765 |
£35,000 |
£7274 |
£8715 |
£40,000 |
£6200 |
£7664 |
£42,875 |
£5582 |
£7060 |
£45,000 |
£5296 |
£6772 |
£50,000 |
£4624 |
£6092 |
£55,000 |
£3951 |
£5413 |
£60,000 |
£3516 |
£4734 |
£62,291+ |
£3516 |
£4422 |
Telir taliadau cynhaliaeth i chi yn uniongyrchol mewn 3 rhandaliad. Telir eich rhandaliad cyntaf i chi ar ôl i chi ymrestru a chasglu eich cerdyn adnabod (telir y ddau randaliad sy’n weddill ar ddiwrnod cyntaf tymor a Gwanwyn a thymor yr Haf).
Grantiau Atodol
Gall myfyrwyr sydd â phlant dibynnol, costau gofal plant, oedolion dibynnol, anabledd, neu sy’n gadael gofal fod yn gymwys i dderbyn cymorth ychwanegol.
Grantiau Atodol |
|||
Grant |
Uchafswm sydd ar gael |
A yw'n seiliedig ar brawf modd? |
Ffurflen Gais |
Lwfans Dysgu i Rieni (PLA) |
£1821 |
Ydy |
PN1 |
Grant Oedolion Dibynnol (ADG) |
£3190 |
Ydy |
PN1 |
Grant Gofal Plant (CCG) |
85% o’r gost i hyd at uchafswm o: 1 Child - £179.62/yr wythnos 2+ plentyn - £307.95/yr wythnos |
Ydy |
CCG1 |
Os oes gennych unrhyw amgylchiadau ychwanegol, mae’n bosib bod cymorth ac ariannu ychwanegol ar gael. I dderbyn gwybodaeth bellach, ewch i'n tudalen we myfyriwr+
Cofiwch - Mae Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau ar gael. Fe'u darperir gan Brifysgol Abertawe i hyrwyddo rhagoriaeth ac i ehangu cyfranogiad.
Ewch i'n tudalen we ymroddedig os bydd angen gwybodaeth bellach arnoch am Sharia Compliant Finance.