Benthyciadau a Grantiau
Lifelong Learning Entitlement (LLE)
Ar gyfer cyrsiau sy'n dechrau ar ôl 1 Ionawr 2027, bydd myfyrwyr o Loegr yn cyflwyno cais am gyllid Lifelong Learning Entitlement (LLE), a fydd yn disodli Cyllid Myfyrwyr Addysg Uwch (HESF) ar gyfer myfyrwyr newydd.
Benthyciad Ffioedd Dysgu
Gall myfyrwyr sy'n byw yn Lloegr gyflwyno cais am fenthyciad ffïoedd dysgu i dalu cost lawn eu ffïoedd dysgu (yn amodol ar amodau a thelerau). Gallant wneud hyn drwy wneud cais ar-lein yn Student Finance England (SFE).
Caiff taliadau Benthyciad Ffioedd Dysgu eu talu’n uniongyrchol i’r Brifysgol yn dilyn cadarnhad o’ch presenoldeb bob tymor, felly nid oes angen unrhyw daliadau o flaen llaw.
Benthyciad Cynhaliaeth
Bydd y swm sydd ar gael i chi yn dibynnu ar le rydych chi'n byw, incwm eich cartref, eich oed, a'r nifer o gredydau rydych chi'n eu hastudio. Mae'r tabl isod yn dangos y cyllid sydd ar gael i fyfyrwyr sy'n astudio 120 o gredydau.
|
Hawl i Fenthyciad Cynhaliaeth |
||
|
Incwm Cartref |
Benthyciad Cynhaliaeth - Byw yng nghartref eich rhieni |
Benthyciad Cynhaliaeth – Byw oddi cartref |
|
£25,000 |
£8,610 |
£10,227 |
|
£30,000 |
£7,887 |
£9,497 |
|
£35,000 |
£7,163 |
£8,766 |
|
£40,000 |
£6,440 |
£8,035 |
|
£42,875 |
£6,024 |
£7,614 |
|
£45,000 |
£5,716 |
£7,304 |
|
£50,000 |
£4,993 |
£6,573 |
|
£55,000 |
£4,269 |
£5,842 |
|
£60,000 |
£3,790 |
£5,111 |
|
£65,000 |
£3,790 |
£4,767 |
Telir taliadau cynhaliaeth yn uniongyrchol i chi mewn 3 rhandaliad. Telir eich rhandaliad cyntaf i chi ar ôl i chi ymrestru a chasglu eich cerdyn adnabod (telir y ddau randaliad sy’n weddill ar ddiwrnod cyntaf tymor a Gwanwyn a thymor yr Haf).
Benthyciad Cynhaliaeth (Y rheini sy'n gymwys i dderbyn buddion)
Bydd myfyrwyr sy'n gymwys i gael budd-daliadau yn cael Benthyciad Cynhaliaeth uwch fel y’i manylir isod.
|
Hawl i Fenthyciad Cynhaliaeth - Y rheiny sy'n gymwys i dderbyn budd-daliadau |
||
|
Incwm Cartref |
Benthyciad Cynhaliaeth - Byw yng nghartref eich rhieni |
Benthyciad Cynhaliaeth – Byw oddi cartref |
|
£25,000 |
£10,158 |
£11,658 |
|
£30,000 |
£9,002 |
£10,527 |
|
£35,000 |
£7,845 |
£9,396 |
|
£40,000 |
£6,689 |
£8,265 |
|
£42,875 |
£6,024 |
£7,614 |
|
£45,000 |
£5,717 |
£7,304 |
|
£50,000 |
£4,993 |
£6,573 |
|
£55,000 |
£4,270 |
£5,842 |
|
£60,000 |
£3,790 |
£5,111 |
|
£65,00 |
£3,790 |
£4,767 |
Telir taliadau cynhaliaeth i chi yn uniongyrchol mewn 3 rhandaliad. Telir eich rhandaliad cyntaf i chi ar ôl i chi ymrestru a chasglu eich cerdyn adnabod (telir y ddau randaliad sy’n weddill ar ddiwrnod cyntaf tymor a Gwanwyn a thymor yr Haf).
Grantiau Atodol
Gall myfyrwyr sydd â phlant dibynnol, costau gofal plant, oedolion dibynnol, anabledd, neu sy’n gadael gofal fod yn gymwys i dderbyn cymorth ychwanegol.
|
Grantiau Atodol |
||
|
Grant |
Uchafswm sydd ar gael |
A yw'n seiliedig ar brawf modd? |
|
Lwfans Dysgu i Rieni (PLA) |
£1,963 |
Ydy |
|
Grant Oedolion Dibynnol (ADG) |
£3,438 |
Ydy |
|
Grant Gofal Plant (CCG) |
85% o’r gost i hyd at uchafswm o: 1 Child - £193.62/yr wythnos 2+ plentyn - £331.95/yr wythnos |
Ydy |
Os oes gennych unrhyw amgylchiadau ychwanegol, mae’n bosib bod cymorth ac ariannu ychwanegol ar gael. Am ragor o wybodaeth, ewch i'n tudalen we Bwrsariaethau a Dyfarniadau Arbennig tîm Cyngor Ariannol
Cofiwch - Mae Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau ar gael. Fe'u darperir gan Brifysgol Abertawe i hyrwyddo rhagoriaeth ac i ehangu cyfranogiad.
Ewch i'n tudalen we ymroddedig os bydd angen gwybodaeth bellach arnoch am Sharia Compliant Finance.