Marged Ann Smith

MA Datblygu a Hawliau Dynol, Rhydargaeau

Llun o Mared

"Credaf fod y thema yn bwnc hynod o bwysig eleni. Fel unigolyn rydw i wastad wedi dangos diddordeb a chredu mewn cydraddoldeb. Teimlaf ei bod hi’n bwysig i annog ieuenctid y byd i ddeall a galw am gydraddoldeb gan ei fod yn effeithio ar bawb o bob cenedl, diwylliant ac hunaniaeth. Yn ogystal, rwy’n astudio gradd meistr mewn Datblygu a Hawliau Dynol, felly roedd y pwnc yn plethu’n hyfryd gyda fy astudiaethau. 

"Bu cyfrannu at y neges yn brofiad gwych. Roedd y cyfarfodydd a’r gweithdai yn fyrlymus wrth i bawb gael cyfle i drafod y pwnc cymhleth yma mewn modd deallus a pharchus. Rwy’n gyffrous iawn i weld y neges yn ei chyfanrwydd ar ôl ein holl waith! Mae’r profiad o gyfrannu at y neges wedi dangos i mi fod fy llais yn werthfawr a gallaf ei defnyddio i wneud newid cadarnhaol mewn cymdeithas.

"Mae’r profiad wedi fy ngalluogi i gael mwy o hyder wrth ymgeisio am swyddi a minnau’n camu mewn i’r byd gwaith ar ôl i mi orffen fy nghwrs. Rwy’n benderfynol o beidio a gadael y ffaith fy mod i’n ferch fy atal rhag ceisio am gyfleoedd newydd."

Llun o'r myfyrwyr sydd wedi cymryd rhan yn y neges