Ffion Wynne Jones

BA Cyfryngau a Chyfathrebu, Baglan

Llun o Ffion Wynne JOnes

"Wnes i ymgeisio i fod yn rhan o'r Neges gan fy mod yn angerddol am sicrhau byd sydd yn dewis heddwch dros frwydro. Dwi 'di arwyddo cymaint o ddeisebau yn fy mywyd i ofyn am heddwch yn y Deyrnas Unedig ac ar draws y byd, felly roedd e'n braf i weithredu'n uniongyrchol am hyn yn ystod y prosiect yma.

"Roedd y profiad yn unigryw – mae gallu cymdeithasu gyda phobl newydd yn fraint yn yr amseroedd yma! Wnes i elwa wrth greu cysylltiadau newydd a theimlo fy mod yn cyd-weithio gydag eraill am y tro cyntaf mewn sbel.

"Mewn ymateb i'r neges, hoffwn gadw ati i alluogi byd sydd yn fwy caredig i bawb o unrhyw gefndir, rhyw, hil a thrywydd o fywyd. Byddaf yn edrych am gyfleoedd i sicrhau hynny a chyfrannu at y gwaith da sydd yn cael ei wneud gan unigolion a sefydliadau ardderchog."

Llun o'r myfyrwyr sydd wedi cymryd rhan yn y neges