Tirion Thomas

BMid Bydwreigiaeth, Y Bala

Llun o Tirion Thomas
"Mae cydraddoldeb i ferched yn rhywbeth rwy'n teimlo'n gryf drosto, gan ganolbwyntio fy mywyd bob dydd o'i gwmpas, a hyn drwy fy ngyrfa rygbi neu fy astudiaethau bydwreigiaeth. Roeddwn i, felly, yn gyffrous i weld cyfle i hyrwyddo hynny ymhellach.
 
"Mae'r profiad hwn wedi bod yn fraint, ac rwy'n teimlo'n gyffrous fy mod wedi bod yn rhan ohono. Mae cyfrannu at y Neges, ochr yn ochr ag unigolion anhygoel eraill, wedi rhoi balchder i mi ynghyd â'r teimlad o gyflawniad wrth gallu hyrwyddo'r hyn rwy'n canolbwyntio arno yn ddyddiol yn fy mywyd.
 
"Yn syml mae gweithio ar y neges hon wedi rhoi'r cymhelliant i mi barhau i wneud yr hyn rwy'n ei wneud fel unigolyn gan wybod bod eraill ledled y byd bellach hefyd yn cefnogi'r Neges a chydraddoldeb i fenywod, ac yn gwneud newidiadau sy'n debygol o gael effaith sylweddol ar lawer."