Alpha Evans

BA Cymraeg, Llanbedr Pont Steffan

Llun o Alpha Evans

"Roedd cyfrannu at y gwaith o lunio’r Neges Heddwch yn brofiad anhygoel, yn enwedig medru cyd-weithio a thrafod gyda phobl ysbrydoledig sy’n awyddus i wneud gwahaniaeth. Roedd y sesiynau a drefnwyd gan yr Urdd yn wych ac wedi rhoi’r cyfle i ni drafod syniadau mewn modd eithaf creadigol.

"Rwyf wedi elwa o’r profiad yn fawr, yn enwedig wrth i’r holl gyfranwyr rannu syniadau am sut gallwn ni wneud gwahaniaeth yn ein cymunedau ac yn ehangach. Rwy’n bwriadu manteisio ar bob cyfle posib i sicrhau bod merched yn derbyn cyfleoedd cyfartal, yn cael eu trin yn gyfartal, a byddaf yn gwrthwynebu unrhyw anghydraddoldeb."

Llun o'r myfyrwyr sydd wedi cymryd rhan yn y neges