Santhi Dosanjh

BSc Biocemeg, Margam

Llun o Santhi Dosanjh

"Fe wnes i ymgeisio i fod yn rhan o Neges Heddwch yr Urdd oherwydd roedd e’n swnio fel y cyfle perffaith i gael platfform neu lais i siarad am y pethau sy'n bwysig i mi.

"Roedd y profiad yn fwy buddiol na'r disgwyl hyd yn oed, ac roedd e’n hwyl mawr i drafod y neges er yn brofiad emosiynol ar adegau. Roedd yn adfywiol i siarad â chymaint o bobl debyg ac angerddol. Dwi wedi dysgu cymaint ac mae hefyd wedi rhoi'r hyder sydd ei angen arna i i fynd â siarad am y pwnc ymhellach

"Byddaf yn parhau i godi llais a thrafod y materion cyfredol sy'n ymwneud â chydraddoldeb i ferched. Dwi’n gobeithio parhau i addysgu fy hun ar sut y gallaf helpu a hefyd addysgu pobl eraill. Dwi’n gyffrous iawn i weld y Neges yn cael ei rhyddhau!"

Llun o'r myfyrwyr sydd wedi cymryd rhan yn y neges