Alaw Grug Harries

LLB Y Gyfraith a Throseddeg, Boncath

Llun o Alaw Grug Harries

"Fe wnes i ymgeisio i fod yn rhan o’r gwaith o lunio’r Neges gan fod rhai yn credu fod merched llawer gwell eu byd heddiw, ond, yn fy marn i, does dim amheuaeth eu bod ymhell o fod yn gyfartal.

"Roedd hi'n bleser i fod yn rhan o’r tîm luniodd y Neges, ces i brofiad arbennig. Fe wnes i gwrdd â myfyrwyr a oedd o’r un farn a fi, ac felly roedd hyn yn creu awyrgylch cyfforddus i drafod anghydraddoldeb rhyw a’r angen i ymbweru merched.

"Dwi wedi penderfynu bod yn fwy parod i leisio fy marn am yr angen i ymbweru merched, gan fod Neges Heddwch yr Urdd yn dangos fod angen parhau i daflu golau ar y mater a galw am newid."

Llun o'r myfyrwyr sydd wedi cymryd rhan yn y neges