Shannon Rowlands

MB BCh Meddygaeth i Raddedigion, Castell Newydd Emlyn

Llun o Shannon

"Fe wnes i ymgeisio i fod yn rhan o'r prosiect eleni achos bod y Neges o gydraddoldeb i ferched yn rhywbeth sy'n bwysig iawn i fi. Roeddwn i eisiau chwarae rhan mewn ymgais i ymbweru merched ar draws y byd a dangos fod unrhywbeth yn bosib!

"Fe wnes i fwynhau'r broses o gyfrannu at lunio’r Neges gan gwrdd â phobl Newydd, clywed am eu profiadau ac fe ddysgais i gymaint wrth bawb. 

"Dwi'n ymrwymo i fod yn lais dros y rheini sy'n wynebu anghydraddoldeb neu anghyfiawnderau ac yn ei gweld hi'n anodd i sefyll lan dros ei hunain ar y pryd."

Llun o'r myfyrwyr sydd wedi cymryd rhan yn y neges