Theresa Ogbekhiulu

Swyddog Addysg, Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe, Nigeria

Llun o Theresa Ogbekhiulu
"Dewisais gymryd rhan yn Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd oherwydd ei fod yn achos da i uniaethu ag ef, ac mae'r ffocws ar Gydraddoldeb i Fenywod yn un sy'n bwysig i mi. Rwy’n credu’n gryf yng ngrym a gallu menywod i feddiannu lleoedd na chawsant erioed eu cynllunio ar ein cyfer, a gwneud newidiadau effeithiol yn ein byd heddiw. Rwyf mor falch o fod yn rhan o'r tîm cyntaf erioed, a'r ail wedyn, o swyddogion amser llawn benywaidd yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe, ac mae'n wych gweld yr holl newidiadau anhygoel sydd wedi digwydd yn sgil hynny. Mae'n anfon neges gref at fyfyrwyr benywaidd sy'n dyheu am fod mewn swyddi arweiniol ac all sicrhau newid. Rwyf wedi dysgu nad cydraddoldeb yw rôl y grwpiau difreintiedig ac mae cynghreiriaid yn bwysig iawn ar y siwrnai hon hefyd. Byddaf yn dal ati i hyrwyddo hanfod neges yr Urdd eleni, i gefnogi menywod, a mynd ati i godi llais yn erbyn anghyfiawnder.
 
"Mae hyn yn fwy na hashtag!'
Llun o'r myfyrwyr sydd wedi cymryd rhan yn y neges