Emily Ellis

Ffarmacoleg Feddygol, Hirwaun

Llun o Emily Ellis

"Wnes i ymgeisio i fod yn rhan o’r Neges er mwyn cael y cyfle i drafod pynciau sy’n bwysig i fi fel unigolyn gyda grŵp mawr o bobl, yn enwedig gyda menywod ifanc fel fi.

"Yr oedd creu y Neges yn llawer o hwyl ond hefyd yn hawdd iawn gan i’r holl syniadau ddod oddi wrth y grŵp a dwi’n credu i hyn gyfrannu at neges bwerus iawn. Fe wnaeth y profiad roi hyder imi allu trafod pethau anghyfforddus gyda phobl lle mae’n bwysig a phriodol er mwyn creu cymuned gwell o’n cwmpas i.

"Rydw i wedi ymrwymo i fod yn llais dros bawb sydd ei angen a hefyd i fod yn berson sy’n gwrando ar bawb, trwy’r amser."

Llun o'r myfyrwyr sydd wedi cymryd rhan yn y neges