Trosolwg o'r Cwrs
A oes gennych ddiddordeb mewn dilyn gyrfa ym myd cyffrous busnes rhyngwladol? A hoffech weithio dramor neu mewn sefydliadau ar raddfa fyd-eang? Mae'n farchnad sy'n tyfu, gyda llawer o gyfleoedd am swyddi, wrth i gwmnïau ledled y byd ddod yn fwy cysylltiedig a chwilio am arweinwyr a rheolwyr y dyfodol.
Mae'r rhaglen MSc Rheoli (Rheoli Rhyngwladol) ym Mhrifysgol Abertawe wedi'i chynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd am ganolbwyntio'n benodol ar y cyfleoedd a'r heriau a gynigir gan fusnes mewn marchnad fyd-eang cydgysylltiedig. Byddwch yn cael cipolwg ar sut mae sefydliadau'n ymgysylltu â'r amgylchedd busnes rhyngwladol ac yn archwilio sut mae arloesedd, menter a strategaeth yn gweithredu mewn cyd-destunau byd-eang.
Byddwch hefyd yn astudio cysyniadau rheoli craidd fel rheoli adnoddau ariannol mewn byd digidol, rheoli gweithrediadau cynaliadwy, rheoli pobl a pherfformiad a strategaeth farchnata, gan sicrhau sylfaen gadarn mewn egwyddorion busnes deinamig.
Mae'r cwrs wedi'i achredu gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI), sef yr unig gorff siartredig yn y DU sy'n ymwneud yn benodol â hyrwyddo'r safonau uchaf o ragoriaeth rheolaeth ac arweinyddiaeth, ac mae ar gael i fyfyrwyr o unrhyw ddisgyblaeth a hoffai weithio ym maes busnes neu reoli. Ar ôl cwblhau’n llwyddiannus fodiwlau wedi’u mapio perthnasol y radd MSc mewn Rheoli, byddwch yn cymhwyso i gael tystysgrif lefel 7 y CMI mewn Rheoli ac Arwain Strategol.