Rheoli (Deallusrwydd Artiffisial), MSc

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
myfyrwyr

Trosolwg o'r Cwrs

Mae Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn trawsnewid busnes a chymdeithas, gan ddod yn sgìl craidd yn gyflym mewn diwydiannau ac yn y llywodraeth. Wrth i fwy o sefydliadau fabwysiadu systemau sy'n cael eu hysgogi gan AI i ddatrys heriau cymhleth, mae'r galw yn tyfu am weithwyr proffesiynol sy'n deall y dechnoleg a'i goblygiadau strategol.

Mae'r MSc Rheoli (Deallusrwydd Artiffisial) yn Abertawe yn rhoi i chi sylfaen gref i ddeall sut gall sefydliadau addasu a rheoli AI yn effeithiol. Byddwch yn meithrin dealltwriaeth werthfawr o'r cyfleoedd, y risgiau a'r cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â'r defnydd cynyddol o AI mewn busnesau modern.

Drwy gydol y rhaglen, byddwch yn archwilio technolegau AI ac ecosystemau digidol sylfaenol, gan ystyried sut gall datblygiadau arloesol ym maes AI lunio strategaeth, gweithrediadau a phrosesau gwneud penderfyniadau. Byddwch hefyd yn ymchwilio i dechnolegau digidol datblygol sy'n cefnogi sefydliadau i drawsnewid a deall eu heffaith ehangach ar fyd busnes a chymdeithas. Mae galw cynyddol am y sgiliau allweddol hyn gan lawer o sefydliadau yn fyd-eang.

Yn ogystal, byddwch yn dysgu am reoli mewn cymuned fyd-eang gyd-gysylltiedig, yn ogystal â chysyniadau rheoli craidd megis rheoli adnoddau ariannol mewn byd digidol, rheoli gweithrediadau'n gynaliadwy, rheoli pobl a strategaeth perfformiad a marchnata, i roi i chi sylfaen gadarn mewn amrywiaeth o egwyddorion busnes dynamig.

Mae'r cwrs wedi'i achredu gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI), sef yr unig gorff siartredig yn y DU sy'n ymwneud yn benodol â hyrwyddo'r safonau uchaf o ragoriaeth rheolaeth ac arweinyddiaeth, ac mae ar gael i fyfyrwyr o unrhyw ddisgyblaeth a hoffai weithio ym maes busnes neu reoli. Ar ôl cwblhau modiwlau wedi’u mapio perthnasol y radd MSc Rheoli yn llwyddiannus, byddwch yn cymhwyso am dystysgrif lefel 7 y CMI mewn Rheolaeth ac Arweinyddiaeth Strategol.

Pam Rheoli (Deallusrwydd Artiffisial) yn Abertawe?

  • Mae'r Ysgol Reolaeth wedi'i hachredu gan AACSB International, cymdeithas addysg fusnes fwyaf y byd, sy'n cysylltu ysgolion busnes, busnesau a dysgwyr, i greu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwych.
  • Gellir cwblhau'r rhaglen mewn un flwyddyn
  • Ar gael i ymgeiswyr heb brofiad blaenorol o bynciau sy'n gysylltiedig â busnes neu reoli
  • Achrediad gan y corff proffesiynol sy'n gallu helpu i hwyluso eich gyrfa
  • Caiff pob modiwl ei addysgu gan ein hacademyddion o'r radd flaenaf sydd â gwybodaeth ddiwydiannol ac academaidd
  • Addysgir ein rhaglenni myfyrwyr yn adeilad gwerth £22 miliwn yr Ysgol Reolaeth ar gampws y Bae
  • Mae Astudiaethau Busnes a Rheoli wedi'i roi yn safle 83 yn Nhablau Prifysgolion y Byd QS fesul Pwnc 2025

Eich Profiad Rheoli (Deallusrwydd Artiffisial)

Nod y radd MSc Rheoli (Deallusrwydd Artiffisial) yw bodloni'r galw cynyddol am weithwyr proffesiynol sy'n arbenigo mewn mabwysiadu AI mewn sefydliadau, gan roi'r wybodaeth a'r sgiliau i chi sy'n hanfodol yn y diwydiant AI modern ac mewn cymdeithas.

O'r diwrnod cyntaf yn yr Ysgol Reolaeth, byddwn yn gweithio gyda chi er mwyn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau a'ch profiad i wella eich rhagolygon gyrfa yn y diwydiant cyffrous a chystadleuol hwn.

Mae'r addysgu yn Abertawe'n cael ei lywio gan ymchwil ac mae gan ein staff brofiad personol o ddamcaniaeth ac ymarfer, sy'n golygu y gallwch chi elwa o'u harbenigedd academaidd a'u profiad proffesiynol ymarferol.

Cyfleoedd Cyflogaeth Rheoli (Deallusrwydd Artiffisial)

Mae gennym hanes ardderchog o helpu ein graddedigion i sicrhau rolau gyda chwmnïau amlwladol mawr.

Bydd rhaglen y radd MSc Rheoli (Deallusrwydd Artiffisial) yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o lwybrau gyrfa, oherwydd ei phwyslais ar dechnegau ymarferol ar gyfer dylunio ac adeiladu systemau deallus.

Bydd eich profiad o'r radd hon yn rhoi i chi gyfleoedd i weithio mewn amrywiaeth eang o sectorau a ffynnu yn y farchnad gystadleuol hon.  

Gallai eich cam nesaf fod yn unrhyw un o'r rolau canlynol:

  • Gwyddonydd Data
  • Dadansoddwr Data AI
  • Ymgynghorydd Rheoli
  • Rheolwr Prosiect
  • Dadansoddwr Busnes

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.