Rheoli (Dadansoddeg Fusnes), MSc

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Myfyrwyr

Trosolwg o'r Cwrs

Oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa ym myd busnes deinamig sy'n cael ei lywio gan ddata?

Mae'r rhan fwyaf o sefydliadau, boed yn fawr neu'n fach, yn defnyddio data a dadansoddeg i lywio eu penderfyniadau strategol a gweithredol. Mae galw mawr am ddadansoddwyr medrus iawn ym mhob sector, o gyllid, addysg, cynnyrch fferyllol a'r llywodraeth, ac mae cyfleoedd gwaith ar gael ledled y byd.

Bydd yr MSc Rheoli (Dadansoddeg Fusnes) ym Mhrifysgol Abertawe yn rhoi dealltwriaeth drylwyr i chi o sut mae gwaith dadansoddi data yn cael ei gynnal a'i gymhwyso yn y byd corfforaethol, hyd at gysyniadau dysgu peirianyddol mwy manwl. Gan ddefnyddio data o amrywiaeth o sectorau busnes, mae'r rhaglen hon yn canolbwyntio ar eich paratoi ar gyfer gyrfa yn oes 'data mawr'.

Mae'r rhaglen yn cwmpasu cysyniadau rheoli craidd fel rheoli adnoddau ariannol mewn byd digidol, rheoli gweithrediadau cynaliadwy, rheoli pobl a pherfformiad a strategaeth farchnata i roi sylfaen gadarn i chi mewn ystod o egwyddorion busnes deinamig.

Mae'r cwrs wedi'i achredu gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI), sef yr unig gorff siartredig yn y DU sy'n ymwneud yn benodol â hyrwyddo'r safonau uchaf o ragoriaeth rheolaeth ac arweinyddiaeth, ac mae ar gael i fyfyrwyr o unrhyw ddisgyblaeth a hoffai weithio ym maes busnes neu reoli. Ar ôl cwblhau modiwlau wedi’u mapio perthnasol y radd MSc mewn Rheoli yn llwyddiannus, byddwch yn cymhwyso i gael tystysgrif lefel 7 y CMI mewn Rheolaeth ac Arweinyddiaeth Strategol.

Pam Rheoli (Dadansoddeg Fusnes) yn Abertawe?

  • Mae'r Ysgol Reolaeth wedi'i hachredu gan AACSB International, cymdeithas addysg fusnes fwyaf y byd, sy'n cysylltu ysgolion busnes, busnesau a dysgwyr, i greu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwych.
  • Ar agor i ymgeiswyr nad oes ganddynt unrhyw brofiad blaenorol o bynciau busnes neu reoli
  • Addysgir ein holl fodiwlau gan ein hacademyddion o'r radd flaenaf sy'n meddu ar wybodaeth academaidd a phrofiad proffesiynol
  • Achrediad corff proffesiynol sy'n gallu rhoi hwb i'ch gyrfa
  • Addysgir ein rhaglenni myfyrwyr yn adeilad gwerth £22 miliwn yr Ysgol Reolaeth ar gampws y Bae
  • Mae Astudiaethau Busnes a Rheoli wedi'i roi yn safle 83 yn Nhablau Prifysgolion y Byd QS fesul Pwnc 2025

Eich Profiad Rheoli (Dadansoddeg Fusnes)

O'r eiliad y byddwch yn ymuno â'r Ysgol Reolaeth, rydym yn gweithio gyda chi i ddatblygu'r sgiliau, yr hyder a'r profiad yn y byd go iawn a fydd yn gwella eich rhagolygon gyrfa.

Bydd gennych fynediad at gymorth gyrfaoedd pwrpasol diderfyn gan ein tîm Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd arbenigol. Gallwch hefyd gymryd rhan mewn lleoliad gwaith neu interniaeth drwy Rwydwaith Interniaeth â Thâl Abertawe (SPIN) neu'r fenter Wythnos o Waith, gan roi profiad gwerthfawr i chi gymhwyso eich dysgu ym maes dadansoddi a rheoli ym myd diwydiant.

Mae ein holl fyfyrwyr yn elwa o gael eu cyd-leoli â phartneriaid o fyd diwydiant ar Gampws arloesol y Bae. Mae ein cyfleusterau'n cynnwys mannau addysgu ac astudio pwrpasol, ynghyd â darpariaeth TG helaeth gyda’r galedwedd a’r feddalwedd ddadansoddeg arbenigol ddiweddaraf, gan sicrhau eich bod yn cael profiad ymarferol o'r offer a ddefnyddir gan sefydliadau sy'n cael eu llywio gan ddata heddiw.

Cyfleoedd Cyflogaeth Rheoli (Dadansoddeg Fusnes)

Mae gennym brofiad helaeth o leoli ein graddedigion gyda chwmnïau aml-wladol mawr.

Bydd eich rhaglen Rheoli, gyda'i hachrediad gan y CMI, yn rhoi cyfleoedd i chi weithio mewn amrywiaeth eang o sectorau a ffynnu yn y farchnad gystadleuol hon.

Gallai eich cam nesaf fod yn unrhyw un o'r rolau hyn:

  • Dadansoddwr Gwybodaeth Fusnes
  • Gwyddonydd Data
  • Dadansoddwr neu Ymchwilydd
  • Partner Busnes Adnoddau Dynol
  • Ymgynghorydd Rheoli

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.