Rheoli (Cyllid), MSc

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Myfyrwyr

Trosolwg o'r Cwrs

Oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa mewn cyllid? Mae'n broffesiwn eang ac mae busnesau ar draws pob sector yn gofyn am bobl sydd â sgiliau ariannol o'r radd flaenaf. Felly, p'un a oes gennych ddiddordeb mewn bancio, cyllid, treth neu yswiriant, bydd rôl ysgogol i chi â llawer o gyfleoedd ar gyfer dilyniant gyrfa. 

Dyluniwyd y rhaglen MSc Rheoli (Cyllid) ym Mhrifysgol Abertawe ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn cyllid neu yrfa ym maes cyllid, ond nad ydynt am astudio am y radd lawn mewn Cyfrifeg a Chyllid. Byddwch yn dilyn modiwlau ar bynciau cyllid fel cyllid a marchnadoedd ariannol ac egwyddorion cyllid corfforaethol. 

Hefyd, byddwch yn dysgu am reoli mewn cymuned fyd-eang gyd-gysylltiedig, yn ogystal â chysyniadau rheoli craidd megis rheoli adnoddau ariannol mewn byd digidol, rheoli gweithrediadau'n gynaliadwy, rheoli pobl a pherfformiad a strategaeth farchnata, i roi i chi sylfaen gadarn mewn amrywiaeth o egwyddorion busnes dynamig. 

Mae'r cwrs wedi'i achredu gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI), sef yr unig gorff siartredig yn y DU sy'n ymwneud yn benodol â hyrwyddo'r safonau uchaf o ragoriaeth rheolaeth ac arweinyddiaeth, ac mae ar gael i fyfyrwyr o unrhyw ddisgyblaeth a hoffai weithio ym maes busnes neu reoli. Ar ôl cwblhau modiwlau wedi’u mapio perthnasol y radd MSc mewn Rheoli yn llwyddiannus, byddwch yn cymhwyso i gael tystysgrif lefel saith y CMI mewn Rheolaeth ac Arweinyddiaeth Strategol. 

Pam Rheoli (Cyllid) yn Abertawe?

  • Mae'r Ysgol Reolaeth wedi'i hachredu gan AACSB International, cymdeithas addysg fusnes fwyaf y byd, sy'n cysylltu ysgolion busnes, busnesau a dysgwyr, i greu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwych.
  • Ar agor i ymgeiswyr nad oes ganddynt unrhyw brofiad blaenorol o bynciau busnes neu reoli
  • Addysgir ein holl fodiwlau gan ein hacademyddion o'r radd flaenaf sy'n meddu ar wybodaeth academaidd a phrofiad proffesiynol
  • Achrediad corff proffesiynol sy'n gallu rhoi hwb i'ch gyrfa
  • Addysgir ein rhaglenni myfyrwyr yn adeilad gwerth £22 miliwn yr Ysgol Reolaeth ar gampws y Bae
  • Mae Astudiaethau Busnes a Rheoli wedi'i roi yn safle 83 yn Nhablau Prifysgolion y Byd QS fesul Pwnc 2025

Eich Profiad Rheoli (Cyllid)

O'r eiliad rydych chi’n ymuno â'r Ysgol Reolaeth, rydym yn gweithio gyda chi i ddatblygu'r sgiliau, yr hyder a'r profiad yn y byd go iawn a fydd yn gwella eich rhagolygon gyrfa. 

Bydd gennych fynediad at gymorth gyrfaoedd pwrpasol diderfyn gan ein tîm Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd arbenigol. Gallwch hefyd gymryd rhan mewn lleoliad gwaith neu interniaeth drwy Rwydwaith Interniaeth â Thâl Abertawe (SPIN) neu'r fenter Wythnos o Waith, gan roi profiad gwerthfawr i chi gymhwyso eich dysgu ym maes dadansoddi a rheoli ym myd diwydiant. 

Mae ein holl fyfyrwyr yn elwa o gael eu cyd-leoli â phartneriaid o fyd diwydiant ar Gampws arloesol y Bae. Mae ein cyfleusterau'n cynnwys mannau addysgu ac astudio pwrpasol, ynghyd â darpariaeth TG helaeth gyda’r galedwedd a’r feddalwedd ddadansoddeg arbenigol ddiweddaraf, gan sicrhau eich bod yn cael profiad ymarferol o'r offer a ddefnyddir gan sefydliadau sy'n cael eu llywio gan ddata heddiw. 

Cyfleoedd Cyflogaeth Rheoli (Cyllid)

Mae gennym brofiad helaeth o leoli ein graddedigion gyda chwmnïau aml-wladol mawr.

Bydd eich rhaglen Rheolaeth (Cyllid), gyda'i hachrediad gan y CMI, yn rhoi cyfleoedd i chi weithio mewn amrywiaeth eang o sectorau a ffynnu yn y farchnad gystadleuol hon.  

Gallai eich cam nesaf fod yn unrhyw un o'r rolau hyn:

  • Ymgynghorydd Rheoli
  • Partner Busnes Adnoddau Dynol
  • Ymgynghorydd Ariannol
  • Dadansoddwr neu Ymchwilydd

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.